Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 31

Trystio Duw

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Dw i'n troi atat ti am loches, O ARGLWYDD;

paid gadael i mi gael fy siomi.

Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi.

2 Gwranda arna i!

Achub fi'n fuan!

Bydd yn graig ddiogel i mi,

yn gaer lle bydda i'n hollol saff.

3 Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.

Cadw dy enw da,

dangos y ffordd i mi ac arwain fi.

4 Rhyddha fi o'r rhwyd sydd wedi ei gosod i'm dal i,

Ie, ti ydy fy lle diogel i.

5 Dw i'n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di.

Dw i'n gwybod y gwnei di fy rhyddhau i

achos ti, o ARGLWYDD, ydy'r Duw ffyddlon.

6 Dw i'n casáu'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth;

ond dw i'n dy drystio di, ARGLWYDD.

7 Bydda i'n dathlu'n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon.

Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i

ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo,

8 Paid gadael i'r gelyn fy nal i;

gad i mi ddianc i le agored.

9 Helpa fi, O ARGLWYDD,

mae hi'n argyfwng arna i.

Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder —

fy nghorff i gyd i ddweud y gwir.

10 Dw i'n cael fy llethu gan boen;

mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan.

Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan,

ac mae fy esgyrn yn frau.

11 Mae'r holl elynion sydd gen i

yn gwneud hwyl ar fy mhen.

Mae fy ffrindiau yn arswydo;

mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd.

12 Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw!

Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.

13 Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd,

a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad.

Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i;

maen nhw eisiau fy lladd i.

14 Ond dw i'n dy drystio di, O ARGLWYDD.

Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”

15 Dw i yn dy ddwylo di

achub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i.

16 Bydd yn garedig at dy was.

Dangos mor ffyddlon wyt ti! Achub fi!

17 O ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat.

Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi!

Cau eu cegau nhw unwaith ac am byth!

18 Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd;

y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawn

ac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw.

19 Ond mae gen ti gymaint o bethau da

i'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di.

O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw,

sef y rhai sy'n troi atat ti am loches.

20 Rwyt ti gyda nhw, ac yn ei cuddio

rhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn.

Ti'n cysgodi drostyn nhw

ac maen nhw'n saff

rhag y tafodau miniog sy'n ymosod.

21 Bendith ar yr ARGLWYDD!

Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlon

pan oedd y gelynion yn ymosod.

22 Ro'n i mewn panig, ac yn meddwl,

“Dwyt ti ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi!”

Ond na, pan oeddwn i'n crefu am help

roeddet ti wedi clywed.

23 Felly carwch yr ARGLWYDD,

chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon!

Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,

ond mae'n talu'n ôl yn llawn i'r rhai sy'n haerllug.

24 Byddwch yn ddewr a hyderus,

chi sy'n credu y bydd yr ARGLWYDD yn eich ateb chi.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity