Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 32

Cyffes a maddeuant

Salm Dafydd. Mascîl.

1 Mae'r un sydd wedi cael maddeuant am ei wrthryfel

wedi ei fendithio'n fawr,

mae ei bechodau wedi eu symud o'r golwg am byth.

2 Mae'r un dydy'r ARGLWYDD ddim yn dal ati

i gyfri ei fai yn ei erbyn wedi ei fendithio'n fawr —

yr un sydd heb dwyll yn agos i'w galon.

3 Pan oeddwn i'n cadw'n ddistaw am y peth,

roedd fy esgyrn yn troi'n frau

ac roeddwn i'n tuchan mewn poen drwy'r dydd.

4 Roeddet ti'n fy mhoenydio i nos a dydd;

doedd gen i ddim egni,

fel pan mae'r gwres yn llethol yn yr haf.

Saib

5 Ond wedyn dyma fi'n cyfaddef fy mhechod.

Wnes i guddio dim byd.

“Dw i'n mynd i gyffesu'r cwbl i'r ARGLWYDD” meddwn i,

ac er fy mod i'n euog dyma ti'n maddau'r cwbl.

Saib

6 Felly, pan mae rhywun sy'n dy ddilyn di'n ffyddlon

yn darganfod ei fod wedi pechu,

dylai weddïo arnat ti;

rhag i'r dyfroedd peryglus ei ysgubo i ffwrdd.

7 Ti ydy'r lle saff i mi guddio!

Ti'n fy amddiffyn i rhag trafferthion.

Mae pobl o'm cwmpas yn dathlu'n llawen

am dy fod ti wedi achub.

Saib

8 Gadewch i mi ddangos y ffordd i chi,

a'ch helpu chi i wybod sut i fyw.

Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.

9 Peidiwch bod yn ystyfnig fel mul

sy'n gwrthod bod yn ufudd,

neu geffyl sydd angen ffrwyn i gadw rheolaeth arno.

10 Mae pobl ddrwg yn mynd i ddioddef yn fawr,

ond mae'r ARGLWYDD yn hollol ffyddlon

i'r rhai sy'n ei drystio fe.

11 Felly chi sy'n gwneud beth sy'n iawn,

Dathlwch beth mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud! Gorfoleddwch!

Bloeddiwch yn llawen, bawb sy'n byw'n gywir!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity