Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 33

Cân o fawl

1 Chi rai cyfiawn, canwch yn llawen i'r ARGLWYDD!

Mae'n beth da i'r rhai sy'n byw'n gywir ei foli.

2 Molwch yr ARGLWYDD gyda'r delyn;

canwch iddo ar yr offeryn dectant.

3 Canwch gân newydd iddo

i gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd.

4 Achos mae beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn;

ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir.

5 Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn;

ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd.

6 Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu.

Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod.

7 Mae e'n casglu dŵr y moroedd yn bentwr,

ac yn ei gadw yn ei stordai.

8 Dylai'r byd i gyd barchu'r ARGLWYDD!

Dylai pob person byw ei ofni!

9 Siaradodd, a digwyddodd y peth;

rhoddodd orchymyn, a dyna fu.

10 Mae'r ARGLWYDD yn drysu cynlluniau'r cenhedloedd,

ac yn rhwystro bwriadau pobloedd.

11 Beth mae'r ARGLWYDD yn ei fwriadu sy'n aros.

Mae ei gynlluniau e yn para ar hyd y cenedlaethau.

12 Mae'r genedl sydd a'r ARGLWYDD yn Dduw iddi

wedi ei bendithio'n fawr,

sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo'i hun.

13 Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd;

ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan.

14 Mae'n syllu i lawr o'i orsedd

ar bawb sy'n byw ar y ddaear.

15 Mae wedi gwneud pawb yn wahanol,

ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud.

16 Nid byddin fawr sy'n achub y brenin;

na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr.

17 Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr;

er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub.

18 Yr ARGLWYDD sy'n gofalu am ei bobl,

sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon.

19 Fe sy'n eu harbed nhw rhag cael eu lladd,

ac yn eu cadw nhw'n fyw mewn cyfnod o newyn.

20 Mae'n gobaith ni yn yr ARGLWYDD!

Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn.

21 Fe sy'n ein gwneud ni mor llawen!

Dŷn ni'n credu yn ei enw sanctaidd e.

22 O ARGLWYDD, gad i ni brofi dy haelioni,

gan ein bod wedi credu ynot ti.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity