Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 35

Gweddi am help

Salm Dafydd.

1 O ARGLWYDD, delia gyda'r rhai sy'n ymladd yn fy erbyn!

Ymosod ar y rhai sy'n ymosod arna i!

2 Coda dy darian fach a'r un fawr,

a tyrd yma i'm helpu i!

3 Defnyddia dy waywffon a dy bicell

yn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i.

Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!”

4 Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i;

coda gywilydd arnyn nhw!

Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i mi

droi'n ôl mewn dychryn.

5 Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt

wrth i angel yr ARGLWYDD ymosod arnyn nhw!

6 Pan fydd angel yr ARGLWYDD yn mynd ar eu holau,

gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig!

7 Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i,

a hynny am ddim rheswm!

Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.

8 Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw!

Gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain!

Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!

9 Bydda i, wedyn, yn gallu moli'r ARGLWYDD,

a llawenhau am ei fod wedi fy achub i!

10 Bydd y cwbl ohona i'n datgan,

“Pwy sy'n debyg i ti, ARGLWYDD?

Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo —

achub y gwan a'r diamddiffyn

rhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.”

11 Mae tystion celwyddog yn codi

ac yn fy nghyhuddo i ar gam.

12 Maen nhw'n talu drwg i mi am yr holl ddaioni wnes i!

Maen nhw eisiau gweld diwedd arna i.

13 Pan oedden nhw'n sâl roeddwn i'n gwisgo sachliain,

ac yn mynd heb fwyd yn fwriadol.

Roeddwn i'n gweddïo drostyn nhw yn ddi-baid.

14 Roeddwn i'n cerdded o gwmpas yn galaru

fel y byddwn i'n galaru dros ffrind neu frawd.

Roeddwn i'n dal fy mhen yn isel fel un yn galaru ar ôl ei fam.

15 Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu!

Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn — wn i ddim pam —

roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwylltion.

16 Dynion annuwiol yn gwawdio am sbort,

ac yn ceisio dangos eu dannedd!

17 O ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i sefyll yna'n gwylio'r cwbl?

Achub fi wrth iddyn nhw ymosod arna i;

cadw fi'n saff oddi wrth y llewod ifanc!

18 Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr!

Bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl!

19 Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau!

Nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd.

20 Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb,

dim ond cynllwynio yn eu herbyn,

a thwyllo pobl ddiniwed.

21 A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau,

“Aha! dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw.

22 O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl!

Felly paid cadw draw! Tyrd yma!

23 Symud! Deffra! Amddiffyn fi!

Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosta i!

24 Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw,

am dy fod ti'n gyfiawn.

Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.

25 Paid gadael iddyn nhw feddwl,

“Aha, dyma'n union beth roedden ni eisiau!”

Paid gadael iddyn nhw ddweud,

“Dŷn ni wedi ei ddinistrio!”

26 Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi;

coda gywilydd arnyn nhw!

Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falch

a gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras!

27 Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy ngham

weiddi'n llawen!

Gad iddyn nhw allu dweud bob amser,

“Yr ARGLWYDD sy'n rheoli!

Mae am weld ei was yn llwyddo.”

28 Wedyn bydda i'n dweud wrth bawb dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn.

Bydda i'n canu mawl i ti drwy'r dydd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity