Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 38

Gweddi un sy'n dioddef

Salm Dafydd. I'th atgoffa.

1 O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i,

a dweud y drefn yn dy wylltineb.

2 Mae dy saethau wedi fy anafu;

mae dy law wedi fy nharo i.

3 Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di!

Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu.

4 Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i;

mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario.

5 Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi;

a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp.

6 Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohona i'n hun.

Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd.

7 Mae fy ochrau'n boenus i gyd;

dw i'n teimlo'n sâl trwyddo i.

8 Mae rhyw boen mud yn fy llethu'n llwyr.

Dw i'n griddfan mewn gwewyr meddwl.

9 O ARGLWYDD, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau!

Rwyt ti wedi clywed fi'n griddfan.

10 Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym;

does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg.

11 Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i;

a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd.

12 Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi,

a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad y faleisus

ac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg.

13 Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar — yn gwrthod gwrando.

Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud — yn dweud dim.

14 Dw i'n clywed dim,

a dw i ddim am ddadlau gyda nhw.

15 Ond ARGLWYDD, dw i'n disgwyl amdanat ti;

byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw.

16 Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!”

Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro!

17 Dw i'n darfod amdana i!

Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg.

18 Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg.

Dw i'n poeni am fy mhechod.

19 Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos!

Cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm!

20 Pobl sy'n talu drwg am dda,

ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn.

21 Paid gadael fi, ARGLWYDD!

O Dduw, paid ti cadw draw!

22 Brysia! Helpa fi,

O ARGLWYDD, fy achubwr!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity