Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 40

Cân o fawl

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbeth,

dyma fe'n troi ata i;

roedd wedi gwrando arna i'n gweiddi am help.

2 Cododd fi allan o'r pwll lleidiog,

a'r mwd trwchus.

Rhoddodd fy nhraed ar graig,

a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.

3 Roedd gen i gân newydd i'w chanu —

cân o fawl i Dduw!

Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e,

ac yn dod i drystio'r ARGLWYDD!

4 Mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD wedi ei fendithio'n fawr!

Dydy e ddim yn troi am help at bobl

sy'n brolio'u hunain ac yn dweud celwydd.

5 O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint! —

gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni.

Does neb yn gallu dy rwystro di!

Dw i eisiau sôn am y pethau hyn wrth bobl eraill,

ond mae yna ormod ohonyn nhw i'w cyfrif!

6 Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau;

Mae hynny'n gwbl amlwg i mi!

Dim am aberthau i'w llosgi ac offrymau dros bechod rwyt ti'n gofyn.

7-8 Felly dyma fi'n dweud,

“O Dduw, dw i'n dod i wneud beth rwyt ti eisiau —

fel mae wedi ei ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.”

Mae dy ddysgeidiaeth di yn rheoli fy mywyd i.

9 Dw i wedi dweud wrth y gynulleidfa fawr am dy gyfiawnder!

Dw i wedi dal dim yn ôl!

Ti'n gwybod hynny, O ARGLWYDD.

10 Wnes i ddim cadw'r peth i mi fy hun;

ond dweud wrth bawb dy fod ti'n Dduw ffyddlon ac yn achub!

Dw i ddim wedi cadw'n dawel am dy ofal ffyddlon di.

11 Tyrd, ARGLWYDD, paid atal dy dosturi oddi wrtho i.

Dy ofal ffyddlon di fydd yn fy amddiffyn i bob amser.

12 Mae peryglon di-ben-draw o'm cwmpas i ym mhobman.

Mae fy mhechodau wedi fy nal i.

Maen nhw wedi fy nallu!

Mae mwy ohonyn nhw nag sydd o wallt ar fy mhen!

Dw i wedi dod i ben fy nhennyn!

13 Plîs, ARGLWYDD, achub fi!

O ARGLWYDD, brysia i'm helpu!

14 Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i

deimlo embaras a chywilydd.

Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi

droi yn ôl mewn cywilydd.

15 Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen i

gael eu cywilyddio a'u dinistrio.

16 Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!

Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,

“Mae'r ARGLWYDD mor fawr!”

17 Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn,

ond mae gan yr ARGLWYDD ei fwriadau ar fy nghyfer.

Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.

O fy Nuw, paid oedi!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity