Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 41

Gweddi am iachâd

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1 Mae'r un sy'n garedig at y tlawd wedi ei fendithio'n fawr.

Bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff pan mae mewn perygl.

2 Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd,

A bydd yn profi bendith yn y tir.

Fydd e ddim yn gadael i'w elynion gael eu ffordd.

3 Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely,

ac yn ei iacháu yn llwyr o'i afiechyd.

4 “O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i,” meddwn i.

“Iachâ fi. Dw i'n cyfaddef mod i wedi pechu yn dy erbyn di.”

5 Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i,

“Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?”

6 Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind;

ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi,

ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i.

7 Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd,

ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi.

8 “Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy;

fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.”

9 Mae hyd yn oed fy ffrind agos

— yr un roeddwn i'n ei drystio,

yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i —

wedi troi yn fy erbyn i!

10 Felly, O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i;

gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw!

11 Ond dw i'n gwybod fy mod i'n dy blesio di:

a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth.

12 Rwyt ti'n fy nghynnal i am fy mod i'n onest gyda ti.

Dw i'n cael aros yn dy gwmni di am byth.

13 Ie, bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel,

o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!

Amen ac Amen.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity