Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 6

Gweddi daer am help

I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Ar yr wythfed. Ref Salm Dafydd.

1 O ARGLWYDD, paid bod yn ddig a'm cosbi i,

paid dweud y drefn yn dy wylltineb.

2 Bydd yn garedig ata i, ARGLWYDD, achos dw i mor wan.

Iachâ fi, ARGLWYDD, dw i'n crynu at yr asgwrn.

3 Dw i wedi dychryn am fy mywyd,

ac rwyt ti, ARGLWYDD …

— O, am faint mwy?

4 ARGLWYDD, tyrd! Achub fi!

Dangos mor ffyddlon wyt ti. Gollwng fi'n rhydd!

5 Dydy'r rhai sydd wedi marw ddim yn dy gofio di.

Pwy sy'n dy foli di yn ei fedd?

6 Dw i wedi blino tuchan.

Mae fy ngwely'n wlyb gan ddagrau bob nos;

mae dagrau wedi socian lle dw i'n gorwedd.

7 Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder,

dw i wedi ymlâdd o achos fy holl elynion.

8 Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg!

Mae'r ARGLWYDD wedi fy nghlywed i'n crïo.

9 Mae wedi fy nghlywed i'n pledio am help.

Bydd yr ARGLWYDD yn ateb fy ngweddi.

10 Bydd fy holl elynion yn cael eu siomi a'u dychryn.

Byddan nhw'n troi yn ôl yn sydyn, wedi siomi.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity