Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 77

Cysur pan mae gofid

I'r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar yr alaw “Cyffes”.

1 Dw i'n gweiddi'n uchel ar Dduw;

yn gweiddi'n uchel ar iddo wrando arna i.

2 Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD;

dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi trwy'r nos,

ond ches i ddim cysur.

3 Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw,

dw i wedi bod yn myfyrio arno — ond yn anobeithio.

Saib

4 Ti sydd wedi fy nghadw i'n effro;

dw i mor boenus, wn i ddim beth i'w ddweud.

5 Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau,

flynyddoedd lawer yn ôl.

6 Cofio'r gân roeddwn i'n arfer ei chanu.

Meddwl drwy'r nos am y peth, a chwilio am ateb.

7 “Ydy'r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth?

Ydy e'n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?

8 Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr?

Ydy'r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?

9 Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd?

Ydy ei ddig yn gryfach na'i dosturi?”

Saib

10 “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:

fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”

11 Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD —

ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!

12 Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti,

a myfyrio ar y cwbl.

13 O Dduw, mae dy ffyrdd di yn gwbl unigryw!

Oes yna dduw tebyg i'n Duw ni?

14 Na! Ti ydy'r Duw sy'n gwneud pethau anhygoel!

Ti wedi dangos dy nerth i'r bobloedd i gyd.

15 Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref,

sef disgynyddion Jacob a Joseff.

Saib

16 Dyma'r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw,

dyma'r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu.

Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!

17 Roedd y cymylau'n tywallt y glaw;

yr awyr yn taranu,

a dy saethau yn fflachio ym mhobman.

18 Roedd dy lais i'w glywed yn taranu yn y storm;

dy fellt yn goleuo'r byd,

a'r ddaear yn crynu trwyddi.

19 Agoraist ffordd drwy'r môr;

Cerddaist drwy'r dyfroedd cryfion,

er bod neb yn gweld olion dy draed.

20 Dyma ti'n arwain dy bobl fel praidd

dan ofal Moses ac Aaron.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity