Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 85

Gweddi am les y genedl

I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.

1 O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir,

ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.

2 Ti wedi symud euogrwydd dy bobl,

a maddau eu pechodau i gyd.

Saib

3 Ti wedi tynnu dy lid yn ôl,

a throi cefn ar dy wylltineb.

4 Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr!

Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.

5 Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth?

Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?

6 Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto,

i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!

7 O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni.

Plîs achub ni!

8 Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud:

Ydy wir! Mae'r ARGLWYDD yn addo heddwch

i'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon —

ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb!

9 Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e;

wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto.

10 Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd;

bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.

11 Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir,

a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.

12 Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni;

a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.

13 Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen

ac yn paratoi'r ffordd iddo.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity