Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 86

Gweddi am help

Gweddi. Salm Dafydd.

1 Gwranda, O ARGLWYDD, ac ateb fi!

Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn.

2 Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti!

Achub dy was. Ti ydy fy Nuw

a dw i'n dy drystio di.

3 Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD!

Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid.

4 Gwna dy was yn llawen eto!

Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti ARGLWYDD.

5 Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.

Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti!

6 Gwranda ar fy ngweddi, O ARGLWYDD!

Edrych! Dw i'n erfyn am drugaredd!

7 Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat,

am mai ti sy'n gallu fy ateb i.

8 Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti, ARGLWYDD!

Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.

9 Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creu

yn dod ac yn plygu o dy flaen di, O ARGLWYDD!

Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,

10 am dy fod ti'n Dduw mawr

ac yn gwneud pethau anhygoel!

Ti ydy'r unig Dduw go iawn!

11 Dysga fi sut i fyw, O ARGLWYDD,

i mi dy ddilyn di'n ffyddlon.

Gwna fi'n benderfynol o d'addoli di'n iawn.

12 Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw,

ac yn anrhydeddu dy enw am byth.

13 Mae dy gariad tuag ata i mor fawr!

Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn. Ref

14 O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i.

Mae yna griw creulon am fy lladd i,

Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.

15 Ond rwyt ti, O ARGLWYDD, mor drugarog a charedig,

rwyt mor amyneddgar!

Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel!Croes

16 Tro ata i, a dangos drugaredd!

Rho dy nerth i dy was,

Achub blentyn dy gaethferch!

17 Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni,

er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynny

a chael eu cywilyddio am dy fod ti, ARGLWYDD,

wedi fy helpu i a'm cysuro.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity