Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 88

Gweiddi am help

Cân. Salm gan feibion Cora. I'r arweinydd cerdd: ar “Mahalath Leanoth”. Mascîl gan Heman yr Esrachiad.

1 O ARGLWYDD, y Duw sy'n fy achub,

dw i'n gweiddi am dy help bob dydd

ac yn gweddïo arnat ti bob nos.

2 Plîs cymer sylw o'm gweddi,

a gwranda arna i'n galw arnat ti.

3 Dw i mewn helynt dychrynllyd;

yn wir, dw i bron marw.

4 Mae pobl yn fy ngweld i fel un sydd ar ei ffordd i'r bedd.

Dyn cryf wedi colli ei nerth i gyd,

5 ac wedi ei adael i farw a'i daflu i fedd cyffredin

gyda'r milwyr eraill sydd wedi eu lladd —

y rhai wyt ti ddim yn eu cofio bellach,

ac sydd ddim angen dy ofal bellach.

6 Ti wedi fy ngosod i ar waelod y Pwll,

mewn tywyllwch dudew yn y dyfnder.

7 Mae dy ddig yn pwyso'n drwm arna i.

Dw i'n boddi dan dy donnau di.

Saib

8 Ti wedi gwneud i'm ffrindiau agos gadw draw;

dw i'n ffiaidd yn eu golwg nhw.

Dw i wedi fy nal ac yn methu dianc.

9 Mae fy llygaid yn wan gan flinder;

O ARGLWYDD, dw i wedi galw arnat ti bob dydd;

dw i'n estyn fy nwylo mewn gweddi atat ti.

10 Wyt ti'n gwneud gwyrthiau i'r rhai sydd wedi marw?

Ydy'r meirw yn codi i dy foli di?

Saib

11 Ydy'r rhai sydd yn y bedd yn sôn am dy gariad ffyddlon?

Oes sôn am dy ffyddlondeb di yn Abadon Ref ?

12 Ydy'r rhai sy'n y lle tywyll yn gwybod am dy wyrthiau?

Oes sôn am dy gyfiawnder ym myd angof?

13 Ond dw i wedi bod yn galw arnat ti am help, ARGLWYDD.

Dw i'n gweddïo arnat ti bob bore.

14 Felly pam, O ARGLWYDD, wyt ti'n fy ngwrthod i?

Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?

15 Dw i wedi diodde a bron marw lawer gwaith ers yn ifanc;

dw i wedi gorfod wynebu pethau ofnadwy,

nes fy mod wedi fy mharlysu.

16 Mae dy lid wedi llifo drosta i;

mae dy ddychryn wedi fy ninistrio.

17 Mae'r cwbl yn troelli o'm cwmpas fel llifogydd;

maen nhw'n cau amdana i o bob cyfeiriad.

18 Ti wedi gwneud i ffrindiau a chymdogion gadw draw oddi wrtho i —

Yr unig gwmni sydd gen i bellach ydy'r tywyllwch!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity