Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 95

Cân o fawl

1 Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r ARGLWYDD,

a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub!

2 Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch;

gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo!

3 Achos yr ARGLWYDD ydy'r Duw mawr;

y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‘duwiau’ i gyd.

4 Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo,

a chopaon y mynyddoedd hefyd!

5 Fe sydd piau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu;

a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio.

6 Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo;

mynd ar ein gliniau o flaen yr ARGLWYDD ein Crëwr.

7 Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e;

y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.

O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw!

8 “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba,

neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch.Croes

9 Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod,

a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i!

10 Am bedwar deg mlynedd ron i'n eu ffieiddio nhw:

‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i;

‘dyn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’

11 Felly digiais, a dweud ar lw,

‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity