Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 97

Duw yn teyrnasu dros bopeth

1 Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!

Gall y ddaear ddathlu,

a'r ynysoedd i gyd lawenhau!

2 Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas;

a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.

3 Mae tân yn mynd allan o'i flaen,

ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.

4 Mae ei fellt yn goleuo'r byd;

a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld.

5 Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,

o flaen Meistr y ddaear gyfan.

6 Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,

a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.

7 Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio —

y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth.

Mae'r ‘duwiau’ i gyd yn plygu o'i flaen.

8 Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,

ac roedd pentrefi Jwda'n dathlu

am dy fod ti'n barnu'n deg, O ARGLWYDD.

9 Achos rwyt ti, ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd;

rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‘dduwiau’ eraill i gyd.

10 Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni.

Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,

ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.

11 Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir,

a llawenydd ar y rhai sy'n onest.

12 Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr ARGLWYDD,

a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity