Yn ôl

Salmau

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Salm 98

Duw yn rheoli'r byd

Salm

1 Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,

am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel!

Mae ei fraich gref,

wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.

2 Mae'r ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub!

Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.

3 Mae wedi cofio ei gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel;

ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.

4 Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,

gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD!

Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo!

5 Canwch fawl ar y delyn i'r ARGLWYDD;

canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!

6 Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd Ref .

Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,

gwaeddwch yn uchel i'r ARGLWYDD, y Brenin!

7 Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi;

a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.

8 Boed i'r afonydd guro dwylo,

ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd

9 o flaen yr ARGLWYDD!

Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear!

Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg,

a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity