Yn ôl

Datguddiad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DATGUDDIAD 15

Saith angel gyda saith pla

1 Gwelais arwydd arall yn y nefoedd, un anhygoel a rhyfeddol: Saith angel gyda'r saith pla olaf. Y plâu yma fyddai'r mynegiant olaf o ddigofaint Duw. 2 A gwelais rywbeth oedd yn edrych yn debyg i fôr o wydr a thân fel petai'n ymledu drwyddo. Ar lan y môr o wydr safai'r bobl oedd wedi ennill y frwydr yn erbyn yr anghenfil a'i ddelw, a hefyd y rhif oedd yn cyfateb i'w enw. Roedd ganddyn nhw delynau roedd Duw wedi'u rhoi iddyn nhw, 3 ac roedden nhw'n canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:

“Mae popeth rwyt yn ei wneud

mor anhygoel a rhyfeddol

Arglwydd Dduw Hollalluog.

Mae beth rwyt yn ei wneud

yn gyfiawn a theg,

Frenin pob oes.

4 Pwy fyddai ddim yn dy barchu di,

a chanmol dy enw di, Arglwydd?

Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd.

Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod

i addoli o dy flaen di,

oherwydd mae'n amlwg

fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”

5 Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛,Croes ar agor yn y nefoedd. 6 Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi'u gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol. 7 Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd. 8 Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity