Yn ôl

Datguddiad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DATGUDDIAD 21

Y Jerwsalem newydd

1 Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a'r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy.Croes 2 Dyma fi'n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi'i gwisgo'n hardd ar gyfer ei phriodas. 3 Wedyn clywais lais o'r orsedd yn cyhoeddi'n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw'n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.Croes 4 Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”

5 Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud,

“Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!”

Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”

6 Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy'r Alffa a'r Omega, Ref y Dechrau a'r Diwedd. Bydda i'n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i'r rhai hynny sy'n sychedig – yn rhad ac am ddim! 7 Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn etifeddu'r pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhw'n blant i mi. 8 Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy'n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy'n dweud celwydd – y llyn tân sy'n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna'r ‛ail farwolaeth‛.”

9 Yna dyma un o'r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o'r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.” 10 Dyma'r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. 11 Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi'n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr – fel iasbis, yn glir fel grisial! 12 Roedd anferth o wal uchel o'i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi'u hysgrifennu ar y giatiau. 13 Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i'r gogledd, tair i'r de a thair i'r gorllewin. 14 Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi'u hysgrifennu ar y rheiny.

15 Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad â mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a'i waliau. 16 Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda'r ffon fesur cafodd ei bod hi'n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a'i huchder. 17 Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch – yn ôl y mesur cyffredin. 18 Roedd y wal wedi'i hadeiladu o faen iasbis, a'r ddinas wedi'i gwneud o aur pur, mor bur â gwydr. 19 Roedd sylfeini waliau'r ddinas wedi'u haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a'r pedwerydd yn emrallt; 20 onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed. 21 Roedd giatiau'r ddinas wedi'u gwneud o berlau, pob giât unigol wedi'i gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir!

22 Doedd dim teml i'w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yno, fel teml. 23 Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a'r Oen fel lamp yn ei goleuo hi.Croes 24 Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â'u holl gyfoeth i mewn iddi hi. 25 Fydd ddim rhaid i'w giatiau gael eu cau o gwbl,Croes achos fydd dim nos yno.Croes 26 Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi. 27 Ond fydd dim byd aflan yn cael mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy'n gwneud pethau ffiaidd neu'n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau wedi'u hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity