Yn ôl

Datguddiad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DATGUDDIAD 22

Afon y Bywyd

1 Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a'r Oen 2 i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coed y bywyd bob ochr i'r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau – cnwd newydd bob mis. Mae dail y coed yn iacháu'r cenhedloedd. 3 Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a'r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy'n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny. 4 Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi'i ysgrifennu ar eu talcennau. 5 Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau'r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw.Croes Byddan nhw'n teyrnasu am byth bythoedd.

6 Dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae'r Arglwydd, y Duw sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'r rhai sy'n ei wasanaethu beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.”

Mae Iesu'n dod yn ôl!

7 “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae proffwydoliaeth y llyfr hwn yn ei ddweud wedi'u bendithio'n fawr.”

8 Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a'u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a'i addoli. 9 Ond dyma'r angel yn dweud, “Paid! Duw ydy'r unig Un rwyt i'w addoli! Un yn gwasanaethu Duw ydw i, yr un fath â ti a'r proffwydi eraill a phawb arall sy'n gwneud beth mae'r llyfr hwn yn ei ddweud.”

10 Yna dwedodd wrtho i, “Paid cau'r llyfr yma, a rhoi sêl arno i rwystro pobl rhag darllen y neges broffwydol sydd ynddo, achos mae'r amser pan fydd y cwbl yn digwydd yn agos!

11 Gadewch i'r rhai sy'n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg;

gadewch i'r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol;

gadewch i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddal ati i wneud beth sy'n iawn;

a gadewch i'r rhai sy'n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.”

12 “Edrychwch! Dw i'n dod yn fuan! Bydd gen i wobr i'w rhoi i bawb, yn dibynnu ar beth maen nhw wedi'i wneud. 13 Fi ydy'r Alffa a'r Omega, Ref y Cyntaf a'r Olaf, y Dechrau a'r Diwedd.

14 “Mae'r rhai sy'n glanhau eu mentyll wedi'u bendithio'n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy'r giatiau i mewn i'r ddinas. 15 Y tu allan mae'r cŵn, a'r rhai sy'n ymarfer dewiniaeth, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, llofruddion, y rhai sy'n addoli eilun-dduwiau a phawb sy'n caru twyllo.

16 “Dw i, Iesu, wedi anfon fy angel i rannu'r dystiolaeth hon gyda chi er lles yr eglwysi. Fi ydy disgynnydd y Brenin Dafydd, a'r Seren sy'n disgleirio yn y bore.”

17 Mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy'n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i'r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.

18 Dw i'n rhybuddio pawb sy'n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â'r plâu sy'n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw. 19 Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a'u lle yn y ddinas sanctaidd sy'n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.

20 Mae'r un sy'n rhoi'r dystiolaeth am y pethau hyn yn dweud, “Ydw, dw i'n dod yn fuan.”

Amen! Tyrd, Arglwydd Iesu!

21 Dw i'n gweddïo y bydd pobl Dduw i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu! Amen.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity