Yn ôl

Datguddiad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DATGUDDIAD 4

Yr orsedd yn y nefoedd

1 Yna ces i weledigaeth. Roedd drws agored yn y nefoedd o mlaen i. A dyma'r llais rôn i wedi'i glywed yn siarad â mi ar y cychwyn (y llais hwnnw oedd fel sŵn utgorn), yn dweud: “Tyrd i fyny yma, a bydda i'n dangos i ti beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hyn.” 2 Yn sydyn roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, ac o mlaen i roeddwn i'n gweld gorsedd yn y nefoedd gyda rhywun yn eistedd arni.Croes 3 Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd. 4 Roedd dau ddeg pedair gorsedd arall o'i chwmpas hefyd, gydag arweinydd ysbrydol yn eistedd ar bob un. Roedden nhw'n gwisgo dillad gwyn ac roedd coronau aur ar eu pennau. 5 Roedd mellt a sŵn taranau yn dod o'r orsedd,Croes ac o'i blaen roedd saith lamp yn llosgi, sef Ysbryd cyflawn perffaith Duw. 6 Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o'r tu blaen a'r tu ôl. 7 Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan.Croes 8 Roedd gan bob un o'r creaduriaid chwe adain wedi'u gorchuddio'n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw'n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd:

“Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd

ydy'r Arglwydd Dduw Hollalluog,Croes

yr Un oedd, ac sydd,

ac sy'n mynd i ddod.”

9 Yna wrth i'r creaduriaid byw roi clod ac anrhydedd a diolch i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, sef yr Un sy'n byw am byth bythoedd, 10 roedd y dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn ei addoli hefyd. Wrth osod eu coronau ar lawr o flaen yr orsedd roedden nhw'n dweud:

11 “Ein Harglwydd a'n Duw!

Rwyt ti'n deilwng

o'r clod a'r anrhydedd a'r nerth.

Ti greodd bob peth,

ac mae popeth wedi'u creu yn bodoli

am mai dyna oeddet ti eisiau.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity