Yn ôl

Datguddiad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DATGUDDIAD 5

Y sgrôl a'r Oen

1 Yna gwelais fod sgrôl yn llaw dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. Roedd ysgrifen ar ddwy ochr y sgrôl ac roedd wedi'i selio â saith sêl. 2 Wedyn gwelais angel pwerus yn cyhoeddi'n uchel, “Pwy sy'n deilwng i dorri'r seliau ar y sgrôl a'i hagor?” 3 Ond doedd neb yn y nefoedd na'r ddaear na than y ddaear yn gallu agor y sgrôl i'w darllen. 4 Dyma fi'n dechrau beichio crio am fod neb yn deilwng i agor y sgrôl a'i darllen. 5 Ond dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn dweud wrtho i, “Stopia grio! Edrych! Mae'r Llew o lwyth Jwda, Ref

6 Yna gwelais Oen oedd yn edrych fel petai wedi'i ladd. Roedd yn sefyll rhwng yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol oedd o'i chwmpas hi. Roedd ganddo saith corn a saith llygad (yn cynrychioli Ysbryd cyflawn perffaith Duw sydd wedi'i anfon allan drwy'r byd i gyd). 7 Aeth i gymryd y sgrôl o law dde yr Un oedd yn eistedd ar yr orsedd. 8 Ac wrth iddo gymryd y sgrôl, dyma'r pedwar creadur byw a'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr Oen. Roedd telyn gan bob un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dal powlenni aur yn llawn o arogldarth (sy'n cynrychioli gweddïau pobl Dduw). 9 Roedden nhw'n canu cân newydd:

“Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôl

ac i dorri y seliau,

am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth,

ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed –

pobl o bob llwyth ac iaith,

hil a chenedl.

10 Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw

a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw.

Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”

11 Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol, 12 ac yn canu'n uchel:

“Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwng

i dderbyn grym a chyfoeth,

doethineb a nerth,

anrhydedd, ysblander a mawl!”

13 Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr – y cwbl i gyd – yn canu:

“Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth

am byth bythoedd,

i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd,

ac i'r Oen!”

14 “Amen!” meddai'r pedwar creadur byw, a dyma'r arweinwyr ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau i addoli.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity