Yn ôl

Datguddiad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

DATGUDDIAD 8

Y seithfed sêl a'r llestr aur

1 Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, aeth pobman yn y nefoedd yn hollol dawel am tua hanner awr.

2 Wedyn gwelais utgyrn yn cael eu rhoi i'r saith angel sy'n sefyll o flaen Duw. 3 Yna dyma angel arall yn dod, ac yn mynd i sefyll wrth yr allor. Roedd ganddo lestr aur yn ei ddwylo i losgi arogldarth. Dyma bentwr o arogldarth yn cael ei roi iddo, i'w losgi ar yr allor aur o flaen yr orsedd, ac i'w gyflwyno i Dduw gyda gweddïau ei bobl. 4 Roedd mwg yr arogldarth a gweddïau pobl Dduw yn codi o law yr angel at Dduw. 5 Yna dyma'r angel yn llenwi'r llestr gyda marwor o'r allor ac yna'n ei daflu i lawr i'r ddaear; ac roedd sŵn taranau a mellt a daeargryn.Croes

Yr Utgyrn

6 Dyma'r saith angel oedd â'r saith utgorn yn paratoi i'w canu.

7 Dyma'r angel cyntaf yn canu ei utgorn, a dyma genllysg a thân wedi'i gymysgu â gwaed yn cael ei hyrddio ar y ddaear.Croes Cafodd un rhan o dair o'r ddaear ei llosgi, a'r coed a'r holl blanhigion yn y rhan yna o'r byd.

8 Dyma'r ail angel yn canu ei utgorn, a dyma rywbeth oedd yn edrych yn debyg i losgfynydd enfawr yn ffrwydro ac yn cael ei daflu i'r môr. Trodd un rhan o dair o'r môr yn waed, 9 lladdwyd un rhan o dair o'r creaduriaid byw yn y môr,Croes a dinistriwyd un rhan o dair o'r llongau.

10 Dyma'r trydydd angel yn canu ei utgorn, a syrthiodd seren enfawr o'r awyr. Roedd yn llosgi'n fflamau wrth ddisgyn. Syrthiodd ar un rhan o dair o'r afonydd a'r ffynhonnau dŵr. 11 ‛Wermod‛ oedd enw'r seren, a trodd un rhan o dair o'r dŵr yn chwerw. Y canlyniad oedd fod llawer o bobl wedi marw am fod y dŵr wedi troi'n chwerw.

12 Dyma'r pedwerydd angel yn canu ei utgorn, a dyma un rhan o dair o'r haul a'r lleuad a'r sêr yn cael eu taro. Dyma un rhan o dair ohonyn nhw'n troi'n dywyll. Doedd dim golau am un rhan o dair o'r dydd, na'r nos chwaith.Croes

13 Wedyn gwelais eryr yn hedfan yn uchel yn yr awyr, a'i glywed yn gweiddi'n uchel: “Gwae! Gwae! Gwae pawb sy'n perthyn i'r ddaear, o achos beth sy'n mynd i ddigwydd pan fydd y tri angel arall yn canu eu hutgyrn!”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity