Yn ôl

Rhufeiniaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

RHUFEINIAID 12

Aberthau byw

1 Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! 2 O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny'n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna'r peth iawn i'w wneud.

3 Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi'n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi'ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi'i roi i chi. 4 Mae'r eglwys yr un fath â'r corff dynol – mae gwahanol rannau i'r corff, a dydy pob rhan o'r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. 5 Yn yr eglwys dŷn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni'n rhan o'r corff ac mae arnon ni angen pawb arall. 6 Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi'r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan wyt ti'n gwybod fod Duw am i ti wneud. 7 Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti'r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny'n gydwybodol. 8 Os wyt ti'n rhywun sy'n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti'r ddawn i arwain, gwna hynny'n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny'n llawen.

Cariad

9 Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda. 10 Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd. 11 Peidiwch byth â gadael i'ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i'r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân. 12 Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi'n dioddef, a daliwch ati i weddïo. 13 Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o'ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser.

14 Peidiwch melltithio'r bobl hynny sy'n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw.Croes 15 Byddwch yn llawen gyda phobl sy'n hapus, a chrio gyda'r rhai sy'n crio. 16 Byddwch yn ffrindiau da i'ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda'r bobl hynny sy'n ‛neb‛. Peidiwch rhoi'r argraff eich bod yn gwybod y cwbl. Croes

17 Peidiwch byth talu'r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser. 18 Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. 19 Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gyda'r peth. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai'r Arglwydd.”Croes 20 Dyma ddylet ti ei wneud:

“Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;

os ydy e'n sychedig, rho rywbeth i'w yfed iddo;

wrth wneud hynny byddi'n tywallt

marwor tanllyd ar ei ben.”Croes

21 Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity