Yn ôl

Rhufeiniaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

RHUFEINIAID 13

Ymostwng i'r Awdurdodau sifil

1 Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi'u rhoi yn eu lle gan Dduw. 2 Mae rhywun sy'n gwrthwynebu'r awdurdodau yn gwrthwynebu rhywbeth mae Duw wedi'i ordeinio, a bydd pobl felly yn cael eu cosbi. 3 Does dim rhaid ofni'r awdurdodau os ydych yn gwneud daioni. Y rhai sy'n gwneud pethau drwg ddylai ofni. Felly gwna beth sy'n iawn a chei dy ganmol. 4 Wedi'r cwbl mae'r awdurdodau yn gwasanaethu Duw ac yn bodoli er dy les di. Ond os wyt ti'n gwneud drygioni, mae'n iawn i ti ofni, am fod y cleddyf sydd ganddo yn symbol fod ganddo hawl i dy gosbi di. Mae'n gwasanaethu Duw drwy gosbi'r rhai sy'n gwneud drwg. 5 Felly dylid bod yn atebol i'r awdurdodau, dim yn unig i osgoi cosb, ond hefyd i gadw'r gydwybod yn lân. 6 Dyna pam dych chi'n talu trethi hefyd – gweision Duw ydyn nhw, ac mae ganddyn nhw waith i'w wneud. 7 Felly talwch beth sy'n ddyledus i bob un – trethi a thollau. A dangoswch barch atyn nhw.

Cariad, am fod y diwedd yn agos

8 Ond mae un ddyled allwch chi byth ei thalu'n llawn, sef y ddyled i garu'ch gilydd. Mae cariad yn gwneud popeth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. 9 Mae'r gorchmynion i gyd – “Paid godinebu,” “Paid llofruddio,” “Paid dwyn,” “Paid chwennych,” ac yn y blaen – yn cael eu crynhoi yn yr un rheol yma: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.”Croes 10 Dydy cariad ddim yn gwneud niwed i neb, felly cariad ydy'r ffordd i wneud popeth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn.

11 Dylech chi fyw fel hyn am eich bod chi'n deall beth sy'n digwydd. Mae'n bryd i chi ddeffro o'ch difaterwch! Mae diwedd y stori, pan fyddwn ni'n cael ein hachub yn derfynol, yn agosach nag oedd pan wnaethon ni ddod i gredu gyntaf. 12 Mae'r nos bron mynd heibio, a'r diwrnod newydd ar fin gwawrio. Felly gadewch i ni stopio ymddwyn fel petaen ni'n perthyn i'r tywyllwch, a pharatoi'n hunain i frwydro dros y goleuni. 13 Gadewch i ni ymddwyn yn weddus fel petai'n olau dydd. Dim partïon gwyllt a meddwi; dim ymddwyn yn anfoesol; dim penrhyddid i'r chwantau; dim ffraeo a chenfigennu. 14 Gadewch i'r Arglwydd Iesu Grist fod fel gwisg amdanoch chi, a pheidiwch rhoi sylw i'ch chwantau hunanol drwy'r adeg.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity