Yn ôl

Rhufeiniaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

RHUFEINIAID 15

1 Dylen ni sy'n credu'n gryf ein bod ni'n gwybod beth sy'n iawn feddwl bob amser am y rhai sy'n ansicr. Yn lle bwrw ymlaen i blesio'n hunain, 2 gadewch i ni ystyried pobl eraill, a cheisio eu helpu nhw a'u gwneud nhw'n gryf. 3 Dim ei blesio ei hun wnaeth y Meseia – fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i hefyd wedi cael fy sarhau yn y ffordd gest ti dy sarhau.”Croes 4 Cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i'n dysgu ni, er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i'r dyfodol.

5 Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi'r amynedd a'r anogaeth yma, yn eich galluogi chi i fyw mewn heddwch gyda'ch gilydd wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu. 6 Drwy wneud hynny byddwch gyda'ch gilydd yn rhoi clod i Dduw, sef Tad ein Harglwydd Iesu Grist.

7 Rhowch glod i Dduw drwy dderbyn eich gilydd, yn union fel gwnaeth y Meseia eich derbyn chi. 8 Daeth y Meseia at yr Iddewon fel gwas, i ddangos fod Duw wedi cadw'r addewidion a wnaeth i Abraham, Isaac a Jacob. Ref 9 Felly mae pobl o bob cenedl yn clodfori Duw am ei drugaredd. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:

“Bydda i'n dy foli di ymhlith y cenhedloedd,

ac yn canu mawl i'th enw.”Croes

10 Maen nhw'n dweud hefyd,

“Llawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl,”Croes

11 a,

“Molwch yr Arglwydd, chi'r cenhedloedd i gyd;

Canwch fawl iddo, holl bobl y byd!”Croes

12 Yna mae'r proffwyd Eseia'n dweud hyn:

“Bydd y blaguryn o deulu Jesse yn tyfu,

sef yr un sy'n codi i deyrnasu ar y cenhedloedd.

Bydd yr holl genhedloedd yn gobeithio ynddo.”Croes

13 Felly dw i'n gweddïo y bydd Duw, ffynhonnell gobaith, yn llenwi'ch bywydau gyda'r llawenydd a'r heddwch dwfn sy'n dod o gredu ynddo; ac y bydd yr Ysbryd Glân yn gwneud i obaith orlifo yn eich bywydau chi!

Gwaith Paul fel Cenhadwr

14 Does dim amheuaeth gen i, frodyr a chwiorydd, eich bod chi'n gwybod beth sy'n dda ac yn iawn, a'ch bod chi'n gallu dysgu eich gilydd. 15 Ond dw i wedi dweud rhai pethau yn blwmp ac yn blaen yn y llythyr yma, er mwyn eich atgoffa chi. Dyna'r gwaith mae Duw wedi'i roi i mi – 16 gwasanaethu y Meseia Iesu ymhlith pobl sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n cyflwyno newyddion da Duw i chi, er mwyn i'r Ysbryd Glân eich glanhau chi a'ch gwneud chi sydd o genhedloedd eraill yn offrwm derbyniol i Dduw.

17 Dw i'n falch o beth mae'r Meseia Iesu wedi'i wneud trwof fi wrth i mi wasanaethu Duw. 18 Wna i ddim meiddio sôn am ddim arall! Mae'r Meseia wedi gwneud i bobl o'r cenhedloedd ufuddhau i Dduw. Mae wedi defnyddio beth dw i'n ei ddweud a'i wneud, 19 ac wedi cyflawni gwyrthiau rhyfeddol drwy nerth yr Ysbryd Glân. Dw i wedi cyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yr holl ffordd o Jerwsalem i dalaith Ilyricwm. 20 Beth dw i wedi ceisio'i wneud ydy cyhoeddi'r newyddion da lle doedd neb wedi sôn am y Meseia o'r blaen. Does gen i ddim eisiau adeiladu ar sylfaen mae rhywun arall wedi'i gosod. 21 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud eto:

“Bydd pobl na ddwedodd neb wrthyn nhw amdano yn gweld,

a rhai oedd heb glywed amdano yn deall.”Croes

Bwriad Paul i ymweld â Rhufain

22 Dyna sydd wedi fy rhwystro i rhag dod atoch chi dro ar ôl tro. 23 Ond bellach does unman ar ôl i mi weithio yn yr ardaloedd yma, a dw i wedi bod yn dyheu am gyfle i ymweld â chi ers blynyddoedd. 24 Dw i am fynd i Sbaen, ac yn gobeithio galw heibio chi yn Rhufain ar y ffordd. Ar ôl i mi gael y pleser o'ch cwmni chi am ychydig, cewch chi fy helpu i fynd ymlaen yno. 25 Ar hyn o bryd dw i ar fy ffordd i Jerwsalem, gyda rhodd i helpu'r Cristnogion yno. 26 Mae'r Cristnogion yn Macedonia ac Achaia wedi casglu arian i'w rannu gyda'r Cristnogion tlawd yn Jerwsalem. 27 Roedden nhw'n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i'w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae'n ddigon teg i'r Iddewon gael help materol. 28 Pan fydda i wedi gorffen hyn, a gwneud yn siŵr eu bod wedi derbyn yr arian, dw i'n mynd i alw heibio i'ch gweld chi ar fy ffordd i Sbaen. 29 Dw i'n gwybod y bydda i'n dod i rannu bendith fawr gan y Meseia gyda chi.

30 Frodyr a chwiorydd, sy'n perthyn i'r Arglwydd Iesu Grist ac yn rhannu'r cariad mae'r Ysbryd yn ei roi, dw i'n apelio arnoch chi i ymuno gyda mi yn y frwydr drwy weddïo drosto i. 31 Gweddïwch y bydd Duw yn fy amddiffyn i rhag y rhai yn Jwdea sy'n gwrthod ufuddhau i Dduw. Gweddïwch hefyd y bydd y Cristnogion yn Jerwsalem yn derbyn y rhodd sydd gen i iddyn nhw. 32 Wedyn, os Duw a'i myn, galla i ddod atoch chi yn llawen a chael seibiant gyda chi. 33 Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi ei heddwch perffaith i ni, gyda chi i gyd. Amen.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity