Yn ôl

Rhufeiniaid

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

RHUFEINIAID 9

Duw wedi dewis yr Iddewon

1 Dw i'n dweud y gwir fel Cristion – heb air o gelwydd. Mae nghydwybod i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân yn tystio 2 fy mod i'n ddigalon iawn ac yn poeni drwy'r amser am fy mhobl, yr Iddewon. 3 Byddwn i'n barod i gael fy melltithio a'm gwahanu oddi wrth y Meseia petai hynny'n gwneud lles iddyn nhw! Fy mhobl i ydyn nhw – y genedl dw i'n perthyn iddi. 4 Pobl Israel sydd wedi cael eu mabwysiadu gan Dduw yn blant iddo'i hun. Nhw welodd ei ysblander. Ymrwymodd y byddai'n gofalu amdanyn nhw. Nhw gafodd y Gyfraith ganddo, a dysgu sut i'w addoli yn iawn. Nhw dderbyniodd yr addewidion i gyd! 5 Eu hanes nhw ydy hanes Abraham, Isaac, Jacob a'i feibion, a nhw ydy'r genedl roedd y Meseia yn perthyn iddi fel dyn. Fe sy'n rheoli popeth, yn Dduw i gael ei foli am byth! Amen!

6 Ond dydy Duw ddim wedi torri ei air! Na! Achos dydy pawb sy'n perthyn i wlad Israel ddim yn bobl Israel go iawn. 7 A dydy profi eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham ddim yn golygu eich bod wir yn blant iddo. Beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ydy, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.”Croes 8 Hynny ydy, dydy pawb sy'n perthyn i deulu Abraham ddim yn blant Duw. Y rhai sy'n blant go iawn i Abraham ydy'r rhai sy'n blant o ganlyniad i addewid Duw. 9 Dyma'r addewid wnaeth Duw: “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma y flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.”Croes

10 Ac wedyn rhaid cofio beth ddigwyddodd i'r gefeilliaid gafodd Isaac a Rebecca. 11 A chofiwch fod hyn wedi digwydd cyn iddyn nhw gael eu geni, pan oedden nhw heb wneud dim byd drwg na da (sy'n dangos fod Duw'n gwneud beth mae'n ei addo yn ei ffordd ei hun. Fe sy'n dewis, 12 dim beth dŷn ni'n ei wneud sy'n cyfri.) Dwedodd Duw wrth Rebecca, “Bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”Croes 13 Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i wedi caru Jacob, ond gwrthod Esau.”Croes

14 Beth mae hyn yn ei olygu? Ydy e'n dangos fod Duw yn annheg? Wrth gwrs ddim! 15 Dwedodd Duw wrth Moses,

“Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw,

a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.”Croes

16 Hynny ydy, trugaredd Duw sydd tu ôl i'r cwbl, dim beth dŷn ni eisiau neu beth dŷn ni'n ei gyflawni. 17 Yn ôl yr ysgrifau sanctaidd dwedodd Duw wrth y Pharo: “Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos trwot ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.”Croes 18 Felly mae Duw yn dangos trugaredd at bwy bynnag mae'n ei ddewis, ac mae hefyd yn gwneud pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ystyfnig.

19 “Ond os felly,” meddai un ohonoch chi, “pa hawl sydd gan Dduw i weld bai, gan fod neb yn gallu mynd yn groes i'w ewyllys?” 20 Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi'i siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam wyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’”Croes 21 Oes gan y crochenydd ddim hawl i ddefnyddio'r un lwmp o glai i wneud llestr crand neu i wneud llestr fydd yn dal sbwriel? 22 A'r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a'i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda'r rhai sy'n haeddu dim byd ond cosb, ac sy'n dda i ddim ond i gael eu dinistrio! 23 Ac mae'n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a'i rannu gyda'r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi'u paratoi ar gyfer hynny o'r dechrau cyntaf. 24 Ac ie, ni ydy'r rheiny! – dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd! 25 Fel mae'n dweud yn llyfr Hosea:

“Galwaf ‛nid fy mhobl‛ yn bobl i mi;

a ‛heb ei charu‛ yn un a gerir”Croes

26 a hefyd,

“Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw,

‘Dych chi ddim yn bobl i mi’

byddan nhw'n cael eu galw yn

blant y Duw byw.”Croes

27 Ac mae Eseia'n dweud fel hyn am Israel:

“Hyd yn oed petai pobl Israel mor niferus â thywod y môr,

dim ond gweddillion – rhyw nifer fechan – fydd yn cael eu hachub,

28 Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen,

ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.”Croes

29 Mae'n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach:

“Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni'n fyw,

bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom,

ac wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.” Ref Croes

Israel yn gwrthod credu

30 Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Mae'n golygu fod pobl o genhedloedd eraill – pobl oedd ddim yn ceisio dilyn Duw – wedi cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw drwy gredu. 31 Ond mae pobl Israel, oedd wedi meddwl y byddai'r Gyfraith yn eu gwneud nhw'n iawn gyda Duw, wedi methu cadw'r Gyfraith honno. 32 Pam? Am eu bod nhw'n dibynnu ar beth roedden nhw eu hunain yn ei wneud yn lle credu. Maen nhw wedi baglu dros ‛y garreg sy'n baglu pobl‛, 33 fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:

Edrychwch – dw i'n gosod yn Jerwsalem

garreg sy'n baglu pobl

a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.

Ond fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.Croes

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity