Yn ôl

Ruth

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

RUTH 4

Ruth a Boas yn priodi a chael mab

1 Aeth Boas i'r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma'r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe'n dod ac eistedd. 2 Wedyn dyma Boas yn cael gafael ar ddeg o arweinwyr y dre, a'u cael nhw hefyd i eistedd gydag e. 3 Wedyn dyma fe'n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi'n gwerthu'r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni. 4 Rôn i'n meddwl y dylwn i adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a'r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau'i brynu e, cymera fe, os nad wyt ti ei eisiau gad i mi wybod. Gen ti mae'r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.” A dyma'r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.” 5 Ond wedyn dyma Boas yn dweud wrtho, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.” 6 “Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Ref Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.”

7 Y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl oedd: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall.Croes Dyna oedd y ffordd i gadarnhau cytundeb yn Israel. 8 Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas. 9 A dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon. 10 Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb i ofalu am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi, er mwyn codi etifedd fydd yn cadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth,Croes fel bod ei enw ddim yn diflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn i gyd, heddiw!” 11 A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem. 12 A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi'i rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fel teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.” Ref Croes

13 Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab. 14 A dwedodd y gwragedd wrth Naomi, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e'n enwog yn Israel. 15 Bydd e'n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e'n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy'n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi'n well na saith mab i ti!” 16 A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei gliniau a'i fagu. 17 Rhoddodd y gwragedd lleol enw iddo, sef Obed, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!”

Achau y Brenin Dafydd

Obed oedd tad Jesse a thaid y Brenin Dafydd.

18 Dyma ddisgynyddion Perets:
  • Perets oedd tad Hesron,
  • 19 Hesron oedd tad Ram,
  • Ram oedd tad Aminadab,
  • 20 Aminadab oedd tad Nachshon,
  • Nachshon oedd tad Salmon,
  • 21 Salmon oedd tad Boas,
  • Boas oedd tad Obed,
  • 22 Obed oedd tad Jesse,
  • a Jesse oedd tad Dafydd.
  • I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity