Yn ôl

Caniad Solomon

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

CANIAD SOLOMON 2

Y ferch wrth ei chariad:

1 Un blodyn saffrwn ar wastatir Saron

ydw i; dim ond lili fach o'r dyffryn.

Y cariad wrth y ferch:

2 F'anwylyd, o'i gymharu â merched eraill

rwyt ti fel lili yng nghanol mieri.

Y ferch wrth ei chariad:

3 Fy nghariad, o'i gymharu â dynion eraill

rwyt ti fel coeden afalau

yng nghanol y goedwig.

Mae'n hyfryd cael eistedd dan dy gysgod,

ac mae dy ffrwyth â'i flas mor felys.

Y ferch:

4 Aeth â fi i mewn i'r gwindy

a'm gorchuddio â'i gariad.

5 Helpwch fi! Adfywiwch fi

gyda ffrwythau melys ac afalau –

dw i'n glaf o gariad.

6 Mae ei law chwith dan fy mhen,

a'i law dde yn fy anwesu.

7 Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch

o flaen y gasél a'r ewig gwyllt:

Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol

nes mae'n barod.

Yr ail gerdd – Gwefr cariad

Y ferch:

8 Ust! Fy nghariad sydd yna!

Edrychwch! Dyma fe'n dod,

yn llamu dros y mynyddoedd

ac yn neidio dros y bryniau

9 fel gasél neu garw ifanc.

Mae yma! Yr ochr arall i'r wal!

Mae'n edrych drwy'r ffenest

ac yn sbecian drwy'r dellt.

10 Mae'n galw arna i:

“F'anwylyd, tyrd!

Gad i ni fynd, fy un hardd.

11 Edrych! Mae'r gaeaf drosodd;

mae'r glaw trwm wedi hen fynd.

12 Mae blodau gwyllt i'w gweld ym mhobman,

y tymor pan mae'r cread yn canu

a cŵan y durtur i'w glywed drwy'r wlad.

13 Mae'r ffrwyth ar y coed ffigys yn aeddfedu

a'r blodau ar y gwinwydd yn arogli'n hyfryd.

F'anwylyd, tyrd!

Gad i ni fynd, fy un hardd.”

Y cariad:

14 Fy ngholomen, rwyt o'm cyrraedd

o'r golwg yn holltau'r graig

a'r ogofâu ar y clogwyni!

Gad i mi dy weld

a chlywed dy lais;

mae sŵn dy lais mor swynol,

a'th olwg mor ddeniadol.

Y ferch:

15 Daliwch lwynogod, y llwynogod bach

sydd am ddifetha gwinllannoedd –

a'n gwinllannoedd yn blodeuo.

16 Fi piau nghariad, a fe piau fi;

mae e'n pori yng nghanol y lilïau.

17 Tyrd, fy nghariad, hyd nes iddi wawrio

ac i gysgodion y nos ddiflannu –

bydd fel gasél neu garw ifanc

yn croesi'r hafnau rhwng y bryniau creigiog.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity