Yn ôl

Caniad Solomon

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

CANIAD SOLOMON 4

Y cariad:

1 O, rwyt mor hardd, f'anwylyd!

O, rwyt mor hardd!

Mae dy lygaid fel colomennod

y tu ôl i'r fêl.

Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr

yn dod i lawr o fynydd Gilead.

2 Mae dy ddannedd yn wyn

fel rhes o ddefaid newydd eu cneifio a'u golchi.

Maen nhw i gyd yn berffaith; Ref

does dim un ar goll.

3 Mae dy wefusau fel edau goch,

a'th geg mor siapus.

Tu ôl i'r fêl mae dy fochau

a'u gwrid fel pomgranadau.

4 Mae dy wddf fel tŵr Dafydd

a'r rhesi o gerrig o'i gwmpas;

mil o darianau yn hongian arno,

fel arfau milwyr arwrol.

5 Mae dy fronnau yn berffaith

fel dwy gasél ifanc, efeilliaid

yn pori ymysg y lilïau.

6 Rhaid i mi fynd a dringo

mynydd myrr a bryn thus,

ac aros yno hyd nes iddi wawrio

ac i gysgodion y nos ddiflannu.Croes

7 Mae popeth amdanat mor hardd, f'anwylyd!

Ti'n berffaith!

8 Tyrd gyda mi o Libanus, fy nghariad,

tyrd gyda mi o fryniau Libanus.

Tyrd i lawr o gopa Amana,

o ben Senir, sef copa Hermon.Croes

Tyrd i lawr o ffeuau'r llewod

a lloches y llewpard.

9 Ti wedi cipio fy nghalon, ferch annwyl, fy nghariad.

Ti wedi cipio fy nghalon gydag un edrychiad,

un em yn dy gadwyn.

10 Mae dy gyffyrddiad mor hyfryd, ferch annwyl, fy nghariad.

Mae dy anwesu cariadus gymaint gwell na gwin,

ac arogl dy bersawr yn well na pherlysiau.

11 Mae dy gusan yn felys, fy nghariad,

yn diferu fel diliau mêl.

Mae mêl a llaeth dan dy dafod,

ac mae sawr dy ddillad fel persawr Libanus.

12 Fy merch annwyl, fy nghariad –

rwyt fel gardd breifat dan glo,

yn ffynnon gaiff neb yfed ohoni.

13 Rwyt yn ardd baradwysaidd o bomgranadau,

yn llawn o'r ffrwyth gorau.

Gardd bersawrus hudolus

o henna hyfryd,

14 nard a saffrwn,

sbeisiau pêr a sinamon,

thus o wahanol fathau,

myrr ac aloes –

pob un o'r perlysiau drutaf.

15 Ti ydy'r ffynnon yn yr ardd –

ffynnon o ddŵr glân gloyw

yn llifo i lawr bryniau Libanus.

Y ferch:

16 Deffra, wynt y gogledd; tyrd, wynt y de!

Chwytha ar fy ngardd

i ledu sawr ei pherlysiau.

Tyrd i mewn i dy ardd, fy nghariad,

a gwledda ar ei ffrwyth gorau.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity