Yn ôl

Sechareia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SECHAREIA 1

Galwad i droi'n ôl at yr ARGLWYDD

1 Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, Ref dyma'r proffwyd Sechareia (mab Berecheia ac ŵyr i Ido)Croes yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:

2 “Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'ch hynafiaid chi. 3 Felly dywed wrth y bobl: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi. Ie, dyna mae e'n ddweud. 4 Peidiwch bod yr un fath â'ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwblCroes pan oedd y proffwydi'n dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg,Croes meddai'r ARGLWYDD. 5 A ble mae'ch hynafiaid chi bellach? Maen nhw a'r proffwydi wedi hen fynd! 6 Ond daeth y cwbl ddwedais i fyddai'n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw'n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni'n ei haeddu.”’”

Gweledigaeth 1 – Ceffylau

7 Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat Ref ) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma'r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia:

8 Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e'n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn. 9 Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi'n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe'n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”

10 Yna dyma'r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy'n digwydd ar y ddaear.” 11 A dyma'r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”

12 Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ ARGLWYDD hollbwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoeddCroes bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”

13 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro'r angel oedd yn siarad â mi. 14 A dyma'r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud,

‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Jerwsalem a dros Seion. 15 Ond dw i wedi digio go iawn gyda'r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda'm pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda'i creulondeb! 16 Felly, dw i'n mynd i droi'n ôl at Jerwsalem,Croes a dangos trugaredd ati. Dw i'n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. 17 Cyhoedda'n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD hollbwerus: ‘Bydd y trefi'n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo'i hun,’”

Gweledigaeth 2 – Pedwar corn anifail

18 Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail. Ref 19 Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r cyrn yma?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn yma ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.”

20 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dangos pedwar gof i mi. 21 A dyma fi'n gofyn, “Beth mae'r rhain yn mynd i'w wneud?” A dyma fe'n ateb, “Y cyrn ydy'r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae'r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity