Yn ôl

Sechareia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SECHAREIA 13

1 “Bryd hynny bydd ffynnon wedi'i hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i'w glanhau o bechod ac aflendid.”

Cael gwared ag eilun-dduwiau a phroffwydi ffals

2 “Bryd hynny hefyd,”—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—“dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod o'r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed.Croes A bydda i hefyd yn cael gwared â'r proffwydi ffals a'r ysbrydion aflan o'r tir. 3 Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a'i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti'n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’Croes A bydd ei dad a'i fam yn ei drywanu i farwolaeth.Croes

4 “Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o'i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio'r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi. 5 Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i'n ifanc.’ 6 Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy'r creithiau Ref yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’”

Y Bugail a'r defaid

7 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:

“Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail,

y dyn sy'n agos ata i.

Taro'r bugail,

a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.

Bydda i'n taro'r rhai bach hefyd.

8 Dyna fydd yn digwydd drwy'r wlad i gyd,”

—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

“Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd,

gan adael un rhan o dair ar ôl.

9 A bydda i'n arwain y rheiny drwy dân,

i'w puro fel mae arian yn cael ei buro,

a'u profi fel mae aur yn cael ei brofi.

Byddan nhw'n galw ar fy enw i,

a bydda i'n ateb.

Bydda i'n dweud, ‘Fy mhobl i ydy'r rhain,’

a byddan nhw'n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity