Yn ôl

Sechareia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SECHAREIA 2

Gweledigaeth 3 – Llinyn Mesur

1 Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law. 2 Gofynnais iddo, “Ble ti'n mynd?” A dyma fe'n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a'i lled.”

3 Yna dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i'w gyfarfod. 4 Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi! 5 Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o'i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o'i mewn hi.’”

Galw pobl yn ôl adre o'r gaethglud

6 “Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai'r ARGLWYDD. “Rôn i wedi'ch chwalu chi i bob cyfeiriad, i'r pedwar gwynt. 7 Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!” 8 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Ar ôl i'w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy'n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!Croes 9 “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i.

10 “Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i'n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai'r ARGLWYDD. 11 “Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â'r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi.Croes Yn wir, bydda i'n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. 12 Bydd yr ARGLWYDD yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o'r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo'i hun unwaith eto. 13 Ust! Pawb drwy'r byd, byddwch dawel o flaen yr ARGLWYDD! Mae e ar fin gweithredu eto o'r lle sanctaidd ble mae'n byw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity