Yn ôl

Sechareia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SECHAREIA 3

Gweledigaeth 4 – Yr Archoffeiriad

1 Yna dangosodd i mi Jehoshwa yr archoffeiriad yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, ac roedd Satan ar yr ochr dde iddo yn ei gyhuddo. 2 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dw i'n dy geryddu di Satan! Dw i, yr ARGLWYDD, sydd wedi dewis Jerwsalem, yn dy geryddu di! Mae'r dyn yma fel darn o bren sydd wedi'i gipio allan o'r tân.”

3 Roedd Jehoshwa'n sefyll o flaen yr angel, yn gwisgo dillad oedd yn hollol fochaidd. 4 A dyma'r angel yn dweud wrth y rhai oedd o'i gwmpas, “Tynnwch y dillad ffiaidd yna oddi arno.” Yna dyma fe'n dweud wrth Jehoshwa, “Dw i wedi maddau dy bechodau di, a dw i'n mynd i dy arwisgo di mewn dillad hardd.”

5 A dyma fi'n dweud, “Gad iddyn nhw roi twrban glân ar ei ben hefyd.” Felly dyma nhw'n rhoi twrban glân ar ei ben, a rhoi'r wisg amdano, tra oedd yr angel yn sefyll yno.

6 Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn siarsio Jehoshwa, a dweud wrtho, 7 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Os gwnei di fyw fel dw i eisiau a gwneud dy ddyletswyddau, ti fydd yn gofalu am y deml a'r iard o'i chwmpas. Byddi'n cael rhyddid i fynd a dod o mlaen i fel yr angylion sy'n sefyll yma. 8 Felly gwrando Jehoshwa, a'r offeiriaid sy'n gweithio gyda ti – dych chi i gyd yn arwydd fy mod i am anfon fy ngwas, y Blaguryn. 9 Am y garreg yma dw i'n ei gosod o flaen Jehoshwa (un garreg gyda saith wyneb iddi) – dw i'n mynd i grafu arni eiriau'r ARGLWYDD hollbwerus, sy'n dweud y bydda i'n symud pechod o'r tir mewn un diwrnod.’ 10 Ac meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—‘Bryd hynny bydd pawb yn gwahodd ei gilydd i eistedd ac ymlacio dan ei winwydden a'i goeden ffigys.Croes’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity