Yn ôl

Sechareia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SECHAREIA 4

Gweledigaeth 5 – Y Menora

1 Wedyn dyma'r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a'm hysgwyd, fel petai'n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu. 2 Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Menora Ref o aur pur, gyda phowlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw. 3 Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr i'r powlen.”

4 A dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?” Ref 5 “Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddai'r angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.

6 Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: Ref Croes ‘Nid grym na chryfder sy'n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. 7 Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e'n dod â'r garreg olaf i'w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae'n hyfryd! Mae'n hyfryd!’”

8 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: 9 “Serwbabel wnaeth osod sylfeini y deml yma, a bydd e'n gorffen y gwaith.” Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. 10 “Pwy wnaeth ddirmygu'r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â'r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae'r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy'n gwylio popeth sy'n digwydd ar wyneb y ddaear.”

11 A dyma fi'n gofyn i'r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i'r menora?” 12 A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i'r coed olewydd sy'n tywallt olew euraid i'r sianeli?” 13 “Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau. 14 A dyma fe'n dweud, “Maen nhw'n cynrychioli'r ddau ddyn sydd wedi'u heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity