Yn ôl

Sechareia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SECHAREIA 6

Gweledigaeth 8 – Pedwar cerbyd rhyfel

1 Edrychais eto, a'r tro yma roedd pedwar cerbyd rhyfel yn dod i'r golwg rhwng dau fynydd – mynyddoedd o bres. 2 Ceffylau fflamgoch oedd yn tynnu'r cerbyd cyntaf, ceffylau duon yr ail, 3 ceffylau gwynion y trydydd, a cheffylau llwyd yr olaf. Roedden nhw i gyd yn geffylau rhyfel cryfion. 4 Dyma fi'n gofyn i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy'r rhain, syr?” 5 A dyma'r angel yn ateb, “Dyma bedwar gwynt Ref y nefoedd wedi'u hanfon allan gan Feistr y ddaear gyfan. 6 Mae'r cerbyd gyda'r ceffylau duon yn mynd i gyfeiriad y gogledd, Ref a'r rhai gwynion i'r gorllewin. Ac mae'r cerbyd gyda'r ceffylau llwyd yn mynd i'r de.” Ref 7 Roedd y ceffylau cryfion i'w gweld yn ysu i fynd allan ar batrôl drwy'r ddaear. A dyma'r Meistr yn dweud wrthyn nhw, “Ewch! Ewch allan ar batrôl drwy'r ddaear gyfan.” Felly i ffwrdd â nhw.

8 Yna dyma fe'n galw arna i, “Edrych! Mae'r rhai sydd wedi mynd i dir y gogledd wedi tawelu fy ysbryd i yno.”

Coroni Jehoshwa

9 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi: 10 “Mae Cheldai, Tobeia a Idaïa newydd ddod yn ôl o Babilon. Dos ar unwaith i dŷ Joseia fab Seffaneia, a derbyn y rhoddion mae'r bobl sy'n y gaethglud wedi'i anfon gyda nhw. 11 Cymer arian ac aur i wneud coron frenhinol a'i gosod ar ben Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad. 12 Yna dywed wrtho, ‘Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud,

Edrych! Mae'r dyn sy'n cael ei alw y Blaguryn yn blaguro!

Mae'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD.

13 Ie, fe sy'n mynd i adeiladu teml yr ARGLWYDD! Bydd yn cael ei arwisgo, ac yn eistedd mewn ysblander fel brenin ar ei orsedd. A bydd offeiriad yn rhannu ei awdurdod, a'r ddau ohonyn nhw yn cytuno'n llwyr gyda'i gilydd. 14 Yna bydd y goron yn cael ei chadw yn nheml yr ARGLWYDD i atgoffa Cheldai, Tobeia, Idaïa a Joseia Ref fab Seffaneia.

15 “‘Bydd pobl yn dod o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. Bydd hyn i gyd yn digwydd os byddwch chi wir yn ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw.’”Croes

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity