Yn ôl

Sechareia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SECHAREIA 7

Cwestiwn am Ymprydio

1 Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), Ref dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia. 2 Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a'i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD. 3 Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn i'r offeiriaid a'r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, Ref fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?” Ref

4 Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus. 5 “Dwed wrth bobl y wlad, a'r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a'r seithfed mis Ref ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi? 6 Na, fel pan dych chi'n yfed a gwledda, dych chi'n ei wneud i blesio'ch hunain!’ 7 Dyna'n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny,Croes pan oedd Jerwsalem a'r pentrefi o'i chwmpas yn ffynnu, a phobl yn byw yn y Negef i'r de a'r iseldir yn y gorllewin.”

Y rheswm am y Gaethglud

8 A dyma Sechareia'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD. 9 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi bod yn ei ddweud,

‘Byddwch yn deg bob amser,

yn garedig a thrugarog at eich gilydd.

10 Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon,

plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd.Croes

A pheidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’

11 “Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando. 12 Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt,Croes nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi'u rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD hollbwerus dywallt ei lid arnyn nhw.

“Dwedodd yr ARGLWYDD hollbwerus.

13 ‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw,

doedden nhw ddim yn gwrando.

Felly pan fyddan nhw'n galw arna i,

fydda i ddim yn gwrando chwaith.Croes

14 Yn lle hynny bydda i'n eu hysgubo nhw i ffwrdd

mewn storm i wledydd dieithr.’

“A dyna pam mae'r wlad yma'n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity