Yn ôl

Seffaneia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

SEFFANEIA 1

1 Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Seffaneia. Roedd Seffaneia yn fab i Cwshi, mab Gedaleia, mab Amareia, mab Heseceia. Ref Cafodd y neges pan oedd Joseia fab Amon yn frenin ar Jwda. Ref Croes

Duw yn barnu

2 “Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,”

—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

3 “Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid.

Dw i am glirio adar a physgod

(yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg).

Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth

oddi ar wyneb y ddaear,”

—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

4 “Dw i'n mynd i daro Jerwsalem

a phawb sy'n byw yn Jwda.

Dw i am gael gwared ag addoli Baal Ref yn llwyr,

a fydd neb yn cofio'r offeiriaid ffals ac anffyddlon.

5 Dw i am gael gwared â'r rhai

sy'n addoli'r haul a'r lleuad a'r sêr o ben y toeau,

a'r rhai sy'n honni eu bod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD

tra'n tyngu llw yn enw Milcom. Ref

6 A dw i am gael gwared â'r rhai

sydd wedi troi cefn arna i, yr ARGLWYDD,

a byth yn troi ata i am help nac arweiniad.”

7 Ust! o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD!

Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos.

Mae'r ARGLWYDD wedi paratoi'r aberth,

ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd.

8 “Ar ddiwrnod yr aberth mawr,” meddai'r ARGLWYDD,

“dw i'n mynd i gosbi swyddogion a theulu'r brenin,

a phawb sy'n gwisgo fel paganiaid. Ref

9 Y diwrnod hwnnw bydda i'n cosbi pawb

sy'n neidio dros y stepen drws, Ref

ac yn llenwi palas eu meistr

gyda chyfoeth wedi'i ddwyn drwy drais a gormes.”

10 “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r ARGLWYDD,

“bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod,

a sgrechian o ran newydd y ddinas;Croes

bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.

11 Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad,

achos bydd y masnachwyr wedi mynd,

a'r rhai sy'n trin arian wedi'u taflu allan.

12 Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau,

ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid,

sy'n meddwl, ‘Fydd yr ARGLWYDD yn gwneud dim byd – na da na drwg.’

13 Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn,

a'u tai yn cael eu chwalu.

Maen nhw'n adeiladu tai newydd,

ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw.

Maen nhw'n plannu gwinllannoedd

ond gân nhw ddim yfed y gwin.Croes”

14 Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos;

y dydd mawr – bydd yma'n fuan!

Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw;

sŵn milwyr cryf yn gweiddi crio.

15 Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig.

Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid;

yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr.

Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;

diwrnod o gymylau duon bygythiol.Croes

16 Bydd sŵn y corn hwrdd, Ref y bloeddio a'r brwydro

yn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol.

17 “Am bod y bobl wedi digio'r ARGLWYDD

bydda i'n achosi helbul iddyn nhw!

– byddan nhw ar goll fel pobl ddall.

Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch,

a'u perfeddion ar wasgar fel tail.

18 Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhw

ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.

Bydd ei ddicter fel tân yn difa'r ddaear.

Bydd dinistr llwyr a sydyn yn dod

ar bawb drwy'r byd i gyd.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity