Yn ôl

Job

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOB 17

Anobaith Job

1 Dw i wedi torri fy nghalon,

mae fy nyddiau'n diffodd;

dim ond y bedd sydd o'm blaen.

2 Mae pawb o'm cwmpas yn gwawdio,

mae fy llygaid yn gorfod diodde'u pryfocio.

3 Cynnig dy hun yn fechnïydd drosto i!

Pwy arall sy'n fodlon gwarantu ar fy rhan?

4 Ti wedi dallu'r rhain; dŷn nhw ddim yn deall,

felly fyddan nhw ddim yn llwyddo.

5 Maen nhw fel dyn yn cynnig gwledd i'w ffrindiau

tra mae ei blant ei hun yn llwgu.

6 Dw i wedi cael fy ngwneud yn destun sbort i'r bobl;

maen nhw'n poeri yn fy wyneb.

7 Mae fy llygaid yn pylu oherwydd y gofid,

a'm corff i gyd yn ddim ond cysgod.

8 Mae pobl dda yn methu credu'r peth,

a'r un heb fai yn cael ei gythruddo gan yr annuwiol.

9 Mae'r rhai cyfiawn yn cadw eu hunain yn bur,

a'r rhai glân eu dwylo yn mynd o nerth i nerth.

10 Felly dewch yn eich blaen i ymosod arna i eto!

Does dim dyn doeth i'w gael yn eich plith chi!

11 Mae fy mywyd ar ben,

a'm cynlluniau wedi'u chwalu –

pethau oeddwn i wir eisiau eu gwneud.

12 Mae'r ffrindiau yma'n dweud fod nos yn ddydd!

‘Mae'n olau!’ medden nhw, a hithau'n hollol dywyll!

13 Dw i'n edrych ymlaen at gartrefu yn y bedd,

a gwneud fy ngwely yn y tywyllwch;

14 Dw i'n dweud wrth y bedd, ‘Fy nhad i wyt ti,’

ac wrth y cynrhon, ‘Fy mam!’, ‘Fy chwaer!’ –

15 Felly, ble mae fy ngobaith i?

Oes rhywun yn gweld unrhyw obaith i mi?

16 Fydd gobaith yn mynd gyda mi drwy giatiau marwolaeth?

Fyddwn ni'n mynd i lawr gyda'n gilydd i'r pridd?”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity