Yn ôl

Job

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOB 2

Duw a Satan – yr ail ddadl

1 Daeth y diwrnod eto i'r bodau nefol ddod o flaen yr ARGLWYDD. A dyma Satan yn dod gyda nhw i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. 2 Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “Ble wyt ti wedi bod?”

Atebodd Satan yr ARGLWYDD, “Dim ond yn crwydro yma ac acw ar y ddaear.”

3 A dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi ar fy ngwas Job? Does neb tebyg iddo ar wyneb y ddaear. Mae'n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae'n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg. Ac mae mor ffyddlon ag erioed er dy fod ti wedi fy annog i ddod â dinistr arno heb achos.”

4 Atebodd Satan, “Croen am groen! – mae pobl yn fodlon colli popeth i achub eu bywydau! 5 Petaet ti'n ei daro ag afiechyd a gwneud iddo ddioddef, byddai'n dy felltithio di yn dy wyneb!”

6 Felly dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Edrych, cei wneud beth bynnag wyt ti eisiau iddo; ond rhaid i ti ei gadw'n fyw.”

Job yn colli ei iechyd

7 Felly dyma Satan yn mynd allan oddi wrth yr ARGLWYDD ac yn taro Job â briwiau cas o'i gorun i'w sawdl.

8 A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel. 9 Ac meddai ei wraig wrtho, “Ti'n dal mor ffyddlon ag erioed, wyt ti? Melltithia Dduw, er mwyn i ti gael marw!”

10 Ond atebodd Job hi, “Ti'n siarad fel y byddai gwraig ddwl, ddi-Dduw yn siarad! Dŷn ni'n derbyn popeth da gan Dduw; oni ddylen ni dderbyn y drwg hefyd?”

Er gwaetha'r cwbl, wnaeth Job ddweud dim i bechu yn erbyn Duw.

Ffrindiau Job yn dod i'w weld

11 Pan glywodd tri o ffrindiau Job am y trychinebau ofnadwy oedd wedi digwydd iddo, dyma nhw'n penderfynu mynd i'w weld. Y tri oedd Eliffas o Teman, Bildad o Shwach, a Soffar o Naamâ. Dyma nhw'n cyfarfod â'i gilydd, a mynd ato i gydymdeimlo a cheisio ei gysuro. 12 Pan welon nhw e o bell, doedden nhw prin yn ei nabod, a dyma nhw'n dechrau wylo'n uchel. Dyma'r tri yn rhwygo'u dillad ac yn taflu pridd i'r awyr.

13 Buon nhw'n eistedd gydag e ar lawr ddydd a nos am wythnos. Ddwedodd neb yr un gair wrtho, achos roedden nhw'n gweld ei fod e'n dioddef yn ofnadwy.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity