Yn ôl

Job

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOB 31

Apêl olaf Job

1 Dw i wedi ymrwymo

i beidio llygadu merch ifanc.

2 Beth fyddai rhywun felly'n ei dderbyn gan Dduw?

Beth fyddai'n ei gael gan yr Un uchod sy'n rheoli popeth?

3 Onid i'r annuwiol mae dinistr yn cael ei roi,

a thrychineb i'r un sy'n gwneud drwg?

4 Ydy e ddim wedi gweld sut dw i wedi byw?

Ydy e ddim wedi gwylio pob cam?

5 Ydw i wedi cymysgu gyda'r rhai celwyddog,

neu wedi bod yn rhy barod i dwyllo?

6 Dylai fy mhwyso i ar glorian sy'n gywir,

iddo weld fy mod i'n gwbl ddieuog.

7 Os ydw i wedi crwydro o'i ffyrdd

a gadael i'm llygaid ddenu'r galon,

neu os oes staen drygioni ar fy nwylo,

8 yna boed i eraill fwyta'r cynhaeaf wnes i ei hau,

ac i'r cnwd a blannais gael ei ddinistrio!

9 Os cafodd fy nghalon ei hudo gan wraig rhywun arall,

a minnau'n dechrau loetran wrth ddrws ei thŷ,

10 boed i'm gwraig i falu blawd i ddyn arall,

a boed i ddynion eraill orwedd gyda hi!

11 Am i mi wneud peth mor ffiaidd –

pechod sy'n haeddu ei gosbi.

12 Mae fel tân sy'n dinistrio'n llwyr, Ref

ac yn llosgi fy eiddo i gyd.

13 Ydw i wedi diystyru cwyn caethwas

neu forwyn yn fy erbyn erioed?

14 Beth wnawn i pe byddai Duw yn codi

i edrych ar y mater? Sut fyddwn i'n ei ateb?

15 Onid Duw greodd nhw, fel fi, yn y groth?

Onid yr un Duw sy wedi'n gwneud ni i gyd?

16 Ydw i wedi gwrthod helpu'r tlawd,

neu siomi'r weddw oedd yn disgwyl rhywbeth?

17 Ydw i wedi bwyta ar fy mhen fy hun,

a gwrthod ei rannu gyda'r amddifad?

18 Na, dw i wedi'i fagu fel tad bob amser,

a helpu'r weddw ar hyd fy mywyd.

19 Wnes i erioed adael neb yn rhewi heb ddillad,

na gadael rhywun tlawd heb gôt.

20 Bydden nhw'n diolch i mi o waelod calon

wrth i wlân fy nefaid eu cadw'n gynnes.

21 Os gwnes i fygwth yr amddifad,

wrth weld fod gen i gefnogaeth yn y llys,

22 yna boed i'm hysgwydd gael ei thynnu o'i lle,

a'm braich gael ei thorri wrth y penelin.

23 Roedd gen i ofn i Dduw anfon dinistr;

allwn i byth wynebu ei fawredd!

24 Ydw i wedi rhoi fy hyder mewn aur,

a theimlo'n saff am fod gen i aur coeth?

25 Wnes i orfoleddu yn y cyfoeth,

a'r holl feddiannau oedd gen i?

26 Wnes i edrych ar yr haul yn tywynnu,

a'r lleuad yn symud yn ei ysblander,

27 nes i'm calon gael ei hudo'n dawel fach,

a'm llaw yn taflu cusan i'w haddoli?

28 Byddai hynny hefyd yn bechod i'w gosbi –

byddwn wedi gwadu'r Duw sydd uchod.

29 Oeddwn i'n falch pan oedd fy ngelyn mewn helynt,

neu'n cael gwefr o weld pethau'n ddrwg arno?

30 Na, wnes i ddweud dim yn ei erbyn

na'i felltithio yn y gobaith y byddai'n marw.

31 Oes unrhyw un o'm teulu wedi dweud,

‘Pam gafodd hwn a hwn ddim croeso wrth fwrdd Job?’

32 Doedd dim rhaid i'r crwydryn gysgu allan ar y stryd,

am fod fy nrws yn agored i deithwyr.

33 Ydw i wedi ceisio cuddio fy meiau fel Adda,

neu gladdu fy mhechod dan fy mantell,

34 am fod gen i ofn barn y dyrfa,

a dirmyg pawb o'm cwmpas

– cadw'n dawel a dewis peidio mynd allan?

35 O na fyddai gen i rywun i wrando arna i!

Dw i'n llofnodi f'amddiffyniad!

Boed i'r Un sy'n rheoli popeth fy ateb!

Boed i'r un sy'n cyhuddo ddod â gwŷs ddilys yn fy erbyn!

36 Byddwn i'n ei chario'n gyhoeddus,

a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.

37 Byddwn yn rhoi cyfrif iddo am bob cam,

ac yn camu o'i flaen yn hyderus fel tywysog.

38 Os ydy'r tir wedi gweiddi yn fy erbyn,

a'i gwysi wedi wylo â'i gilydd –

39 Os ydw i wedi dwyn ei gnwd heb dalu,

ac achosi i'r tenantiaid lwgu,

40 yna boed i fieri dyfu yn lle gwenith,

a chwyn ffiaidd yn lle haidd!”

Roedd Job wedi gorffen siarad.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity