Yn ôl

Job

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOB 32

Araith Elihw

(Job 32:1—37:24)

1 Felly dyma'r tri dyn yn stopio dadlau gyda Job, am ei fod mor siŵr ei fod yn iawn.

2 Ond roedd Elihw fab Barachel o deulu Bws, oedd yn perthyn i glan Ram, wedi gwylltio'n lân gyda Job am fynnu mai fe oedd yn iawn ac nid Duw. 3 Roedd yn wyllt gyda'r tri chyfaill hefyd, oedd yn condemnio Job ac eto'n methu ei ateb. 4 Roedd Elihw wedi cadw'n dawel tra oedden nhw'n siarad â Job, am eu bod nhw'n hŷn nag e. 5 Ond pan welodd Elihw nad oedd y tri yn gallu ateb Job, roedd e wedi gwylltio'n lân.

Ymateb cyntaf Elihw

6 Yna, dyma Elihw fab Barachel o deulu Bws yn dweud fel hyn:

“Dyn ifanc dw i, a dych chi i gyd yn hen;

felly dw i wedi bod yn cadw'n dawel

ac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl.

7 Dwedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad;

rho gyfle i'r rhai sydd â phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’

8 Ond Ysbryd Duw yn rhywun,

anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n gwneud iddo ddeall.

9 Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth,

does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn.

10 Felly dw i'n dweud, ‘Gwrandwch arna i,

a gadewch i mi ddweud be dw i'n feddwl.’

11 Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad,

ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi,

wrth i chi drafod y pethau hyn.

12 Ond mae'n gwbl amlwg i mi

fod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job,

a gwrthbrofi'r hyn mae wedi'i ddweud.

13 A pheidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn –

Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’

14 Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto,

a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.

15 Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach;

does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.

16 Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel?

Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb.

17 Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt,

cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl.

18 Mae gen i gymaint i'w ddweud,

alla i ddim peidio dweud rhywbeth.

19 Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor;

fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio.

20 Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis.

Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb.

21 Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb,

na seboni drwy roi teitlau parchus i bobl;

22 dw i ddim yn gwybod sut i seboni –

petawn i'n gwneud hynny,

byddai'r Duw a'm gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity