Yn ôl

Job

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOB 4

Y cylch cyntaf o ddadleuon

(Job 4:1—14:22)

Ymateb Eliffas: mae'r dieuog yn llwyddo

1 A dyma Eliffas o Teman yn ymateb:

2 “Wnei di faddau i mi os gwna i fentro dweud gair?

Mae'n anodd peidio dweud rhywbeth!

3 Meddylia gymaint o bobl wnest ti eu dysgu,

a'r holl rai gwan wnest ti eu hannog a'u helpu.

4 Roedd dy eiriau yn cynnal y rhai oedd yn baglu,

ac yn cryfhau'r rhai oedd yn simsanu.

5 Ond nawr, mae wedi digwydd i ti,

a fedri di ddim godde'r peth;

mae drwg wedi dy daro,

a dyma ti'n anobeithio!

6 Ydy dy grefydd ddim yn dy gynnal?

Ydy dy fywyd da ddim yn rhoi gobaith i ti?

7 Meddylia am eiliad, gafodd rhywun dieuog ei ddifa erioed?

Ble cafodd y rhai sy'n byw'n iawn eu difa'n llwyr?

8 Fel yma dw i'n ei gweld hi: y rhai sy'n aredig drygioni

ac yn hau helynt sy'n medi cynhaeaf hynny!

9 Mae Duw yn chwythu arnyn nhw,

ac maen nhw'n cael eu difa;

maen nhw'n diflannu gydag anadl ei ffroenau.

10 Maen nhw fel y llew yn rhuo, a'i rai bach yn cwyno,

pan mae dannedd y llewod ifanc wedi'u torri.

11 Heb ysglyfaeth mae'r llew cryf yn marw,

a chenawon y llewes yn mynd ar wasgar.

Gweledigaeth Eliffas

12 Ces neges yn dawel o'r dirgel,

dim ond sibrydiad bach a glywais.

13 Yng nghanol breuddwydion dryslyd y nos,

pan mae pobl yn cysgu'n drwm.

14 Rôn i wedi dychryn, ac yn crynu trwof;

roedd fel ias drwy fy esgyrn i gyd!

15 Teimlais awel yn pasio heibio i'm hwyneb,

a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.

16 Roedd siâp rhywun yn sefyll o'm blaen,

ond doeddwn i ddim yn ei nabod.

Tawelwch, ac yna clywais ei lais yn sibrwd:

17 ‘Ydy person dynol yn fwy cyfiawn na Duw?

Ydy pobl yn fwy pur na'r Un wnaeth nhw?

18 Os ydy Duw ddim yn trystio ei weision,

ac yn cyhuddo'i angylion o fod yn ffôl,

19 pa obaith sydd i'r rhai sy'n byw mewn corff o bridd,

ac yn tarddu o'r llwch –

y rhai y gellir eu gwasgu fel gwyfyn!

20 Gallan nhw gael eu sathru'n farw,

unrhyw bryd rhwng gwawr a machlud,

a'u difa'n llwyr am byth, heb neb yn cymryd sylw.

21 Mae rhaffau eu pebyll daearol yn cael eu codi,

ac maen nhw'n marw mewn anwybodaeth.’

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity