Yn ôl

Job

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOB 42

Job yn cyfaddef ei fai

1 Yna dyma Job yn dweud wrth yr ARGLWYDD:

2 “Dw i'n gwybod dy fod ti'n gallu gwneud unrhyw beth;

does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.

3 ‘Pwy ydy hwn sy'n amau fy nghynllun i,

ac yn deall dim?’ meddet ti.

Ti'n iawn, dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall;

pethau oedd y tu hwnt i mi, pethau allwn i mo'u dirnad nhw.

4 ‘Gwranda arna i, a gwna i siarad;

Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb,’ meddet ti.

5 O'r blaen, wedi clywed amdanat ti oeddwn i,

ond nawr dw i wedi dy weld drosof fy hun.

6 Felly, dw i'n tynnu'r cwbl yn ôl,

ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”

Duw yn barnu'r tri ffrind

7 Ar ôl i'r ARGLWYDD siarad â Job, dyma fe'n dweud wrth Eliffas o Teman, “Dw i'n ddig iawn gyda ti a dy ddau ffrind, am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job. 8 Felly cymerwch saith tarw a saith hwrdd a mynd at fy ngwas Job a chyflwyno offrwm i'w losgi drosoch eich hunain. Bydd fy ngwas Job yn gweddïo drosoch chi, a bydda i'n gwrando arno. Felly fydda i ddim yn delio gyda chi fel dych chi'n haeddu am beidio dweud beth sy'n wir amdana i, yn wahanol i fy ngwas Job.”

9 Felly dyma Eliffas o Teman, Bildad o Shwach a Soffar o Naamâ yn mynd a gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthyn nhw, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando ar weddi Job.

Duw yn bendithio Job

10 Ar ôl i Job weddïo dros ei ffrindiau, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi yn ôl iddo y cwbl oedd wedi'i golli – yn wir rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwywaith cymaint ag o'r blaen.

11 Daeth ei frodyr a'i chwiorydd, a'i hen ffrindiau i gyd, i'w dŷ am bryd o fwyd, ac i gydymdeimlo gydag e a'i gysuro achos yr holl drasiedïau roedd yr ARGLWYDD wedi'u dwyn arno. Rhoddodd pob un ohonyn nhw arian a modrwy aur iddo.

12 Dyma'r ARGLWYDD yn bendithio Job fwy yn y blynyddoedd ar ôl hynny nag roedd wedi ei wneud yn y blynyddoedd cyn hynny. Roedd ganddo un deg pedair mil o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o barau o ychen, a mil o asennod. 13 Hefyd cafodd saith mab a thair merch. 14 Enw'r ferch hynaf oedd Jemima, Cetsia oedd enw'r ail, a Ceren-hapwch oedd y drydedd. 15 Doedd dim merched harddach i'w cael yn unman, a rhoddodd Job etifeddiaeth iddyn nhw fel i'w brodyr.

16 Cafodd Job fyw am gant pedwar deg o flynyddoedd ar ôl hynny, a gwelodd bedair cenhedlaeth o'i ddisgynyddion. 17 Felly, roedd Job yn hen ŵr mewn oedran mawr pan fuodd e farw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity