Yn ôl

Job

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOB 5

1 Galw am help! Fydd rhywun yn dy ateb di?

At ba un o'r angylion sanctaidd wyt ti'n mynd i droi?

2 Mae'r ffŵl byrbwyll yn marw o ddiffyg amynedd,

a'r person dwl pan mae'n dal dig.

3 Dw i wedi gweld y ffŵl yn llwyddo a gwreiddio,

ond yna'n sydyn roedd ei gartref wedi'i felltithio.

4 Dydy ei blant byth yn saff –

byddan nhw'n colli'r achos yn y llys, heb neb i'w hachub.

5 Bydd pobl newynog yn bwyta ei gnydau,

a'i gario i ffwrdd i'w guddio; Ref

a'r rhai sy'n llwgu yn ysu am ei gyfoeth.

6 Dydy profiadau drwg ddim yn tyfu o'r pridd,

na thrafferthion yn egino o'r ddaear;

7 ond mae pobl yn cael eu geni i drafferthion,

mor siŵr ag mae gwreichion yn hedfan i fyny.

8 Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw,

ac yn gosod fy achos o'i flaen.

9 Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,

cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!

10 Mae e'n anfon glaw i'r ddaear,

ac yn dyfrio'r caeau.

11 Mae e'n codi'r rhai sy'n isel,

ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel.

12 Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys,

i'w hatal rhag llwyddo.

13 Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw;

mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith.

14 Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd,

ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!

15 Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon,

a'r anghenus o afael y rhai cryf.

16 Felly mae gobaith i'r tlawd,

ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!

17 Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi'u bendithio'n fawr;

felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth!

18 Mae e'n anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf;

mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.

19 Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall;

chei di ddim niwed byth.

20 Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth,

ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.

21 Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus;

a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.

22 Byddi'n gwawdio dinistr a newyn,

a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwyllt.

23 Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir,

a fydd anifeiliaid gwyllt ddim yn ymosod arnat ti.

24 Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel,

ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.

25 Byddi'n siŵr o gael llawer iawn o blant;

bydd dy ddisgynyddion fel glaswellt ar y tir.

26 Byddi mewn oedran mawr pan gyrhaeddi'r bedd,

fel ysgub o wenith yn cael ei chasglu yn ei thymor.

27 Edrych! Dŷn ni wedi astudio hyn yn fanwl, ac mae'n wir.

Felly gwrando, a meddylia sut mae'n berthnasol i ti.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity