Amminadab

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod yr Exodus. Tad Nahshon a thad-yng-nghyfraith Aaron (Exodus 6:23). Priododd Aaron gyda Eliseba, ei ferch. Mae ei enw yn ymddangos yng nghoeden deuluol Iesu yn Mathew a Luc. (gweler Numeri 1:7-2:4; Ruth 4:19,20; 1 Cronicl 2:10; Mathew 1:4; Luc 3:33)