Ceffas

 

Enw arall ar Simon Pedr, disgybl Iesu. Fel disgybl, cafodd deitl newydd gan Iesu, Kepha, sef y gair Aramaeg am graig (petros yn y Groeg), a dywedodd Iesu y byddai’n adeiladu’r eglwys ar y graig hon. Felly dechreuodd cael ei alw yn Pedr, neu’n Simon Pedr.
(gweler Ioan 1:42; 1 Corinthiaid 1:12; 3:22; 9:5; 15:5; Galatiaid 1:18-2:14 hefyd PEDR)