Genesis 1:16

Mae’n ddiddorol sylwi nad ydy’r haul a’r lleuad yn cael eu henwi yma – mae’n debyg am eu bod yn cael eu haddoli gan baganiaid yn y cyfnod pan gafodd Genesis ei ysgrifennu (gw. Deuteronomium 4:19).  Yn yr Enwma Elish (un o straeon y creu o Babilon) does dim son am greu yr haul a’r sêr – roedden nhw’n bodoli’n barod.