Rehoboam

 

Cymeriad yn yr Hen Destament, o ddechrau cyfnod y Deyrnas Ranedig (930 – 586 C.C.).
• Mae ei enw yn ymddangos yng nghoeden deuluol Iesu.
• Mab y brenin Solomon.
• Rehoboam oedd brenin olaf gwlad unedig Israel, a brenin cyntaf teyrnas y De, Jwda. Pan ddaeth Rehoboam yn frenin, gwrthododd leihau’r trethi trwm oedd ar y bobl, a gwrthryfelodd rhai o’r llwythau yn ei erbyn. Ffurfiodd 10 llwyth (yn cael eu harwain gan Jeroboam) deyrnas y Gogledd, sef Israel. Arhosodd llwyth Jwda a Benjamin yn ffyddlon i Rehoboam a ffurfio teyrnas y De, sef Jwda. Mae hanes yr ymrannu i’w weld yn llyfr 1 Brenhinoedd, pennod 12 ymlaen. Pan fu farw Rehoboam yn 913 O.C. cafodd ei gladdu yn ninas Dafydd.
(gweler 1 Brenhinoedd 11:43-12:27; 14:21-15:6; 1 Cronicl 3:10; 2 Cronicl 9:31-13; Mathew 1:7)