Salm 1

Mae Salm 1 a 2 gyda’i gilydd yn llunio rhyw fath o ragarweiniad i’r casgliad.  Yn Salm 1 mae ffordd o fyw rhywun sydd mewn perthynas iawn gyda Duw yn cael ei gymharu gyda ffordd o fyw pobl ddrwg, annuwiol.  Mae’n dweud hefyd beth ydy pen draw y ddwy ffordd o fyw.

Gwneud beth mae Duw yn ei ddweud (dilyn ei gyfarwyddiadau yn y Gyfraith – y Torâ) sy’n rhoi bywyd ar ei orau (cymh. Salm 119).