LUC 1
Cyflwyniad
1 Theoffilws, syr – Fel dych chi'n gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasglu'r hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni. 2 Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu'n llygad-dystion i'r cwbl o'r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw. 3 Felly, gan fy mod innau wedi astudio'r pethau yma'n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu'r cwbl yn drefnus i chi, syr. 4 Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.Dweud ymlaen llaw am eni Ioan Fedyddiwr
5 Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o'r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses. 6 Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e'n dweud. 7 Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw'n eithaf hen. 8 Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad. 9 A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, drwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i'r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.) 10 Pan oedd yn amser i'r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan. 11 Roedd Sachareias wrthi'n llosgi'r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o'i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i'r allor. 12 Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd. 13 Ond dyma'r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydy'r enw rwyt i'w roi iddo, 14 a bydd yn dy wneud di'n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi'i eni. 15 Bydd e'n was pwysig iawn i'r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. 16 Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. 17 Gyda'r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi'r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â'u plant,Croes ac yn peri i'r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy'n gwneud synnwyr.” 18 “Sut alla i gredu'r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi'r cwbl, dw i'n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.” 19 Dyma'r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy'r angel sy'n sefyll o flaen Duw i'w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti. 20 Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw i'n ddweud, byddi'n methu siarad nes bydd y plentyn wedi'i eni. Ond daw'r cwbl dw i'n ei ddweud yn wir yn amser Duw.” 21 Tra oedd hyn i gyd yn digwydd, roedd y bobl yn disgwyl i Sachareias ddod allan o'r deml. Roedden nhw'n methu deall pam roedd e mor hir. 22 Yna pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw. A dyma nhw'n sylweddoli ei fod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol yn y deml – roedd yn ceisio esbonio iddyn nhw drwy wneud arwyddion, ond yn methu siarad. 23 Ar ôl i'r cyfnod pan oedd Sachareias yn gwasanaethu yn y deml ddod i ben, aeth adre. 24 Yn fuan wedyn dyma'i wraig Elisabeth yn darganfod ei bod hi'n disgwyl babi, a dyma hi'n cadw o'r golwg am bum mis. 25 “Yr Arglwydd Dduw sydd wedi gwneud hyn i mi!” meddai. “Mae wedi bod mor garedig, ac wedi symud y cywilydd roeddwn i'n ei deimlo am fod gen i ddim plant.”Dweud ymlaen llaw am eni Iesu
26 Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, 27 at ferch ifanc o'r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi'i haddo'n wraig i ddyn o'r enw Joseff. Roedd e'n perthyn i deulu y Brenin Dafydd. 28 Dyma'r angel yn mynd ati a'i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae'r Arglwydd gyda ti!” 29 Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo'n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl. 30 Felly dyma'r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di'n fawr. 31 Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog, a byddi di'n cael mab. Iesu ydy'r enw rwyt i'w roi iddo. 32 Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw'n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, 33 a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!” 34 Ond meddai Mair, “Sut mae'r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.” 35 Dyma'r angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw. 36 Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy'n perthyn i ti, yn mynd i gael babi er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi'n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog! 37 Rwyt ti'n gweld, does dim byd sy'n amhosib i Dduw ei wneud.” 38 A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir.” Wedyn dyma'r angel yn ei gadael hi.Mair yn ymweld ag Elisabeth
39 Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i'r dref yng nghanol bryniau Jwda 40 lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi'n cyfarch Elisabeth, 41 a dyma fabi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi â'r Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair, 42 a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti'n ei gario wedi'i fendithio hefyd! 43 Pam mae Duw wedi rhoi'r fath fraint i mi? – cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i! 44 Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dyma'r babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di. 45 Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wedi'i ddweud wrthot ti.”Cân Mair
46 A dyma Mair yn ymateb:“O, dw i'n moli'r Arglwydd!
47 Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!
48 Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn,
ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes
yn dweud fy mod wedi fy mendithio,
49 Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi –
Mae ei enw mor sanctaidd!
50 Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy'n ymostwng iddo.
51 Mae wedi defnyddio'i rym i wneud pethau rhyfeddol! –
Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
52 Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,
ac anrhydeddu'r bobl hynny sy'n ‛neb‛.
53 Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i'r newynog,
ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!
54 Mae wedi helpu ei was Israel,
a dangos trugaredd at ei bobl.
55 Dyma addawodd ei wneud i'n cyndeidiau ni –dangos trugaredd at Abraham a'i ddisgynyddion am byth.”
56 Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre.Hanes geni Ioan Fedyddiwr
57 Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi. 58 Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi. 59 Wythnos ar ôl i'r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai'n cael ei alw, yr un fath â'i dad. 60 Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.” 61 “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda'r enw yna.” 62 Felly dyma nhw'n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw'i fab. 63 Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau, “Ioan ydy ei enw.” 64 Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw. 65 Roedd ei gymdogion i gyd wedi'u syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd. 66 Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hi'n amlwg i bawb fod llaw Duw arno.Cân Sachareias
67 Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn:68 “Molwch yr Arglwydd – Duw Israel!
Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd.
69 Mae wedi anfon un cryf i'n hachub ni –
un yn perthyn i deulu ei was,
y Brenin Dafydd.
70 Dyma'n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd:
71 Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion
ac o afael pawb sy'n ein casáu ni.
72 Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i'n cyndeidiau,
ac wedi cofio'r ymrwymiad cysegredig a wnaeth
73 pan aeth ar ei lw i Abraham:
74 i'n hachub ni o afael ein gelynion,
i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim,
75 a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn
tra byddwn fyw.
76 A thithau, fy mab bach, byddi di'n cael dy alw
yn broffwyd i'r Duw Goruchaf;
oherwydd byddi'n mynd o flaen yr Arglwydd
i baratoi'r ffordd ar ei gyfer.
77 Byddi'n dangos i'w bobl sut mae cael eu hachub
drwy i'w pechodau gael eu maddau.
78 Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog,
ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o'r nefoedd.
79 Bydd yn disgleirio ar y rhai sy'n byw yn y tywyllwch
gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw,
ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
80 Tyfodd y plentyn Ioan yn fachgen cryf yn ysbrydol. Yna aeth i fyw i'r anialwch nes iddo gael ei anfon i gyhoeddi ei neges i bobl Israel.