Mae 1 Cronicl yn canolbwyntio ar hanes teyrnasiad y brenin Dafydd – o tua 1010 C.C. i 970 C.C. Mae’r naw pennod gyntaf yn rhestrau o enwau pobl yn hanes Israel cyn hynny, o Adda i ddisgynyddion llwythau Israel. Pan mae’n troi at Dafydd mae’n pwysleisio ei ffyddlondeb o’i gymharu ag anffyddlondeb y brenin Saul o’i flaen. Mae’r prif ffocws ar y ffordd wnaeth Dafydd arwain y bobl i addoli Duw. Mae hefyd yn pwysleisio addewid Duw i Dafydd, y byddai brenin o’i linach o yn teyrnasu am byth.
1 CRONICL 1
O Adda i feibion Noa
(Genesis 5:1-32)
1 Adda, Seth, Enosh, 2 Cenan, Mahalal-el, Iered, 3 Enoch, Methwsela, Lamech, 4 Noa, Shem, Cham, a Jaffeth.Disgynyddion Jaffeth
(Genesis 10:2-4)
5 Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras. 6 Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma. 7 Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Rhodos.Disgynyddion Cham
(Genesis 10:6-8,13-18)
8 Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan. 9 Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan. 10 Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod: y concwerwr cyntaf ar y ddaear. 11 Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid, 12 Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid. 13 Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), a'r Hethiaid, 14 y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 15 Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 16 Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath.Disgynyddion Shem
(Genesis 10:22-29; 11:10-26)
17 Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram. Disgynyddion Aram Ref oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Meshech. 18 Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber. 19 Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Ref Enw ei frawd oedd Ioctan. 20 Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach, 21 Hadoram, Wsal, Dicla, 22 Obal, Abima-el, Sheba, 23 Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan. 24 Cangen arall o deulu Shem: Ref Shem, drwy Arffacsad, Shelach, 25 Eber, Peleg, Reu, 26 Serwg, Nachor, Tera, 27 i Abram (sef Abraham). 28 Meibion Abraham: Isaac ac Ishmael. 29 A dyma'u disgynyddion nhw:Disgynyddion Ishmael
(Genesis 25:13-15)
Nebaioth oedd mab hynaf Ishmael, wedyn Cedar, Adbe-el, Mifsam, 30 Mishma, Dwma, Massa, Hadad, Tema, 31 Ietwr, Naffish a Cedema. Y rhain oedd meibion Ishmael.Disgynyddion Abraham drwy Cetwra
(Genesis 25:1-4)
32 Meibion Cetwra, partner Ref Abraham: Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach. Meibion Iocsan: Sheba, a Dedan. 33 Meibion Midian: Effa, Effer, Chanoch, Abida, ac Eldaä. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.Disgynyddion Isaac
34 Abraham oedd tad Isaac. A meibion Isaac oedd Esau ac Israel.Disgynyddion Esau
(Genesis 36:10-19)
35 Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Iewsh, Ialam, a Cora. 36 Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, a (drwy Timna) Amalec. 37 Meibion Reuel: Nachath, Serach, Shamma, a Missa.Disgynyddion Seir
(Genesis 36:20-30)
38 Meibion Seir: Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, Dishon, Etser a Dishan. 39 Meibion Lotan: Chori, a Homam (A Timna oedd chwaer Lotan.) 40 Meibion Shofal: Alïan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam. Meibion Sibeon: Aia, ac Ana. 41 Mab Ana: Dishon. Meibion Dishon: Chemdan, Eshban, Ithran a Ceran. 42 Meibion Etser: Bilhan, Saafan, a Iacân. Meibion Dishan: Us ac Aran.Brenhinoedd Edom
(Genesis 36:31-43)
43 Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:- Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.
- 44 Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.
- 45 Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.
- 46 Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)
- 47 Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.
- 48 Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar afon Ewffrates ddaeth yn frenin.
- 49 Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.
- 50 Wedyn ar ôl i Baal-chanan farw dyma Hadad o dre Pai yn dod yn frenin. Enw ei wraig oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).